Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn rhannu syniadau am sut i adolygu pan mae amser yn brin.
Fideo: Wyt ti ‘di gadael hi’n rhy hwyr?
LOIS: Os ‘dach chi wedi gadael hi’n rhy hwyr, peidiwch â panicio.
JACK: Y peth cyntaf, ydy peidio panicio. Does ‘na ddim pwynt gwneud hynna, does ‘na ddim pwynt mynd trwy pob dim, meddwl dros bob dim, beth fasach chi wedi gallu gwneud yn wahanol. Meddyliwch beth ‘dach chi’n gallu gwneud efo’r amser sydd ar ôl, rŵan.
LOIS: Os ydy amser yn brin, edrychwch ar y cynllun marcio ac adolygwch y rhai sydd efo’r marciau uchaf.
MANON: Jyst dechreua. Mae adolygu rhyw 10 munud yn well nag adolygu dim byd o gwbl.
JACK: Ar gyfer y gwyddorau, dwi’n arfer ysgrifennu nodiadau a mynd trwy cyn-bapurau, oherwydd newch chi sylwi mae lot o gwestiynau’n dod i fyny eto ac eto. Ar gyfer pynciau fel Saesneg Llên wna i fynd ar-lein oherwydd mae ‘na lwyth o wefannau efo cardiau fflach yna’n barod i chi.
JEIA: Tria dechneg o’r enw blurting. Ti’n nodi’r holl wybodaeth ti’n gallu ei chofio ar un darn o bapur. Weithiau wnei di sylweddoli dy fod yn cofio mwy na ti’n feddwl.
MARI: Y peth gorau i’w wneud yw i fod yn onest. Siarad â’r athrawes a gofyn os bydd modd aros ‘nôl a cael cwpl o wersi ychwanegol yn ystod amser cinio. Bydd hynna’n siŵr o helpu chi.
MANON: Dwi’n troi at ffrindiau am help. Ry’n ni i gyd yn yr un cwch, ac yn enwedig ‘da fi, mae rhai ffrindiau lot yn fwy chilled nag eraill. Felly mae cael meddylfryd fwy cadarnhaol yn help fawr.
MARI: Mae mor bwysig cofio bod modd ailsefyll yr arholiad. Nid yr arholiad yma yw diwedd y byd. Dwi wedi ailsefyll mathemateg tair gwaith nawr. Dwi ym Mlwyddyn 13 ac ond newydd basio’r flwyddyn hon.
MANON: Os yw amser yn brin, dwi’n dueddol o wrando ar glipiau sain, yn enwedig ar gyfer pynciau megis Cymraeg, drama, a Saesneg Llên. Mae hwn lot cyflymach na darllen.
JACK: Weithiau, ‘dach chi ddim ond angen un peth bach i glicio, a wedyn mae pob dim yn dod yn hawdd.
JEIA: Mae’n werth ateb pob cwestiwn mewn arholiad. Mae ateb cywir yn ateb cywir, dyfalu neu beidio.
MANON: Mae’n naturiol cymharu dy hun â dy ffrindiau ym mhob agwedd o fywyd, ond dwi’n ceisio canolbwyntio ar fy ngwaith fy hun, a mynd cyflymder dy hun hefyd.
ELUNED: Yn y gorffennol dwi wedi cymharu fy hun â fy ffrindiau, ond dwi wedi sylweddoli bod gan bawb agwedd wahanol at fywyd, felly’r cyfan gallwch chi wneud yw eich gorau.
JACK: Dwi ddim yn arfer cymharu fy hun â fy ffrindiau. Yr unig berson wna i gymharu fy hun efo ydy fy hun o’r gorffennol, er mwyn gweld pa fath o gynnydd dwi wedi’i gael yn y pwnc. Neu hyd yn oed un math o gwestiwn bach, dwi’n cael look ar beth o’n i’n arfer wneud, beth dwi’n wneud rŵan, a gweld sut dwi wedi gwella efo hynna. Hynna ydy’r unig beth wna i gymharu fy hun efo fo.
MARI: Yn sicr, dwi’n un o’r bobl ‘na sy’n mynd i mewn i’r arholiad yn gwbl blanc, ac wedyn yr eiliad dwi’n dechrau ysgrifennu mae popeth yn dod ‘nôl ata i.
JEIA: Os wnei di gadw’n cŵl ac yn calm mewn arholiad, wnei di sylweddoli dy fod yn gwybod mwy na ti’n feddwl.
Tips y tîm ar gyfer adolygu pan mae amser yn brin



Jack “Y peth cyntaf, ydy peidio panicio. Does ‘na ddim pwynt gwneud hynna, does ‘na ddim pwynt mynd trwy bob dim, meddwl dros bob dim, beth faset ti wedi gallu gwneud yn wahanol. Meddylia beth wyt ti’n gallu gwneud efo’r amser sydd ar ôl.”
Lois “Os ydy amser yn brin, edrycha ar y cynllun marcio ac adolyga’r adrannau sydd efo’r marciau uchaf.”
Manon “Os yw amser yn brin, dwi’n dueddol o wrando ar glipiau sain, yn enwedig ar gyfer pynciau megis Cymraeg, Drama, a Saesneg Llên. Mae hwn lot cyflymach na darllen.”



Jeia "Tria dechneg o’r enw blurting. Ti’n nodi’r holl wybodaeth ti’n gallu ei chofio ar un darn o bapur. Weithiau fe wnei di sylweddoli dy fod yn cofio mwy na ti’n feddwl.”
Mari “Y peth gorau i’w wneud yw i fod yn onest. Siarad â’r athrawes a gofyn os bydd modd aros ‘nôl a chael cwpl o wersi ychwanegol yn ystod amser cinio. Bydd hynna’n siŵr o dy helpu di.”
Eluned “Y cyfan alli di ei wneud yw dy orau.”
Cyngor Sara
Pan mae amser adolygu’n brin, mae’n naturiol i ti boeni a mynd i banig. Dyma gyngor Sara Jones, sy’n gydlynydd Lles ac Iechyd Meddwl mewn ysgol uwchradd, am sut i adnabod a delio gyda straen neu 'stress'.

Rhai o arwyddion straen yw pen tost, tensiwn yn y cyhyrau a dy galon yn curo’n gyflymach. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, rho gynnig ar y technegau a’r syniadau hyn i helpu i leddfu straen:
- anadla’n araf ac yn ddwfn
- cymera fath cynnes
- gwranda ar gerddoriaeth leddfol
- gwna ymarferion meddwlgarwch
- ysgrifenna am dy deimladau
- cymera seibiant
Os wyt ti'n teimlo bod pethau'n mynd yn ormod, paid â'i ymladd. Anadla'n araf ac yn ddwfn a chanolbwyntia ar ddelweddau cadarnhaol ac ymlaciol – bydd y panig yn pasio.
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Adolygu: Tips adolygu gwych
Cyngor call gan bobl ifanc sy’n gwybod beth yw beth.

Adolygu: Sut i gofio pethau
Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Tips gan arbenigwr
Cyngor gan arbenigwr ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.
