Adolygu: Tips adolygu gwych

Part ofStudy support

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm a’n harbenigwyr yn rhannu rhagor o gyngor adolygu.

Fideo: Tips adolygu

Cyngor gorau’r tîm

Jac “Mae esbonio gwaith i ffrind a gweithio gyda rhywun arall yn ffordd dda o gael y wybodaeth i sticio yn fy mhen i.”

Manon “Ar gyfer pwnc fel Cerddoriaeth, dwi’n mwynhau gwrando ar y gwaith gosod a chlywed y technegau. Ond ar gyfer pwnc fel Cymraeg, dwi’n mwynhau creu mapiau meddwl gydag isdeitlau gwahanol.”

Jeia “Dwi’n creu cardiau fflach ar gyfer Almaeneg. Mae’n ffordd hawdd o ddysgu geirfa newydd.”

Eluned “Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth Ffrangeg pan dwi’n adolygu Ffrangeg achos mae’n gwneud y profiad yn fwy o hwyl.”

Mari “Dwi'n hoff o fapiau meddwl. Maen nhw'n ffordd dda o grynhoi gwybodaeth berthnasol i un lle. Maen nhw hefyd yn hawdd i’w cofio gan mai dim ond un darn o bapur sydd.”

Steffan “Dwi’n tueddu i recordio fy hun yn siarad. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn. Dwi’n tueddu i wneud y system yma i gofio rhyw ddarn o waith penodol sydd angen cael ei ddysgu, ac mae hyn hefyd yn gweithio’n well i mi na darllen darn penodol o waith.”

Jack “Ar gyfer Saesneg Llên, dwi’n ysgrifennu cerdyn fflach yr un ar gyfer y prif gymeriadau a’r prif themâu, efo sawl dyfyniad arnyn nhw. Os fyswn i’n gallu, byswn i’n defnyddio dyfyniadau sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer sawl cymeriad a sawl thema – mae ‘na lai i’w gofio wedyn.”

Fideo: Tips adolygu - arbenigwyr

Cyngor adolygu’r arbenigwyr

Mae mwy i adolygu na gweithio yn unig. Dyma rai syniadau gan ein harbenigwyr - y Criw Cynghori - ar sut i gadw’n iach a gwarchod dy iechyd meddwl er mwyn i ti allu gweithio’n effeithlon.

Beca “Yn ogystal â bwyta diet cytbwys i dy helpu i reoli stress, cofia gynnwys amser ar gyfer ymarfer corff wrth greu dy gynllun gwaith. Yn ogystal â rhoi cyfle i ti gamu i ffwrdd o dy waith am ychydig, mae ymarfer corff yn cynyddu lefelau’r endorffinau yn dy gorff, ac mae endorffinau’n dy helpu i deimlo’n dda.”

Rob “Paid â gweithio a gweithio. Mae ymlacio a chysgu’n rhoi cyfle i dy ymennydd gadarnhau beth rwyt ti wedi ei ddysgu, felly mae noson dda o gwsg yn gallu bod yr un mor dda â diwrnod da o waith!”

Angharad “Weithiau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau adolygu ac mae poeni am hynny’n gallu achosi straen. Os nad oes gen ti syniad ble i ddechrau, gofynna i dy athro am gymorth i adnabod unrhyw fannau gwan, neu brif bwyntiau adolygu’r arholiad. Byddan nhw’n medru rhoi canllawiau a strwythur i ti eu dilyn. Unwaith bydd gen ti gynllun, byddi di’n teimlo cymaint gwell.“

Sara ”Os wyt ti'n cael trafferth ysgogi dy hun, gwna'r dasg gyntaf yn un o'r rhai mwyaf diddorol neu bleserus.”

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau

Adolygu: Tips gan arbenigwr

Cyngor gan arbenigwr ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Tips gan arbenigwr

Arholiadau ac asesiadau

Mae ein tîm ifanc yn trafod ac yn rhannu eu tips nhw ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Arholiadau ac asesiadau