Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’n tîm ni’n rhannu’r tips adolygu a’r tips cofio sy’n gweithio iddyn nhw.
Fideo: Tips adolygu a sut i gofio pethau
CAI: Os chi’n stryglo i ddod o hyd i wybodaeth, mae ‘na lwyth o bethau ar y we. Yn amlwg, gyda Bitesize mae ‘na lwyth o fideos, ac maen nhw mor fyr. Gallwch chi wylio llwyth mewn hanner awr.
MARI: Cyn dechrau adolygu, un o’r pethau pwysicaf i’w gael yw desg glir i weithio arni, ac wrth gwrs ychydig o snacs a digon o ddŵr i gadw’r egni lan hefyd.
CAI: Cyn dechrau, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ben, pensil, llyfrau, cyfrifiannell – unrhyw beth chi angen. Os chi’n stopio ac yn edrych am bethau, chi’n colli momentwm, a chi ddim eisiau dechrau eto.
MARI: Mae’r dechneg ‘edrych, dweud, cuddio, ysgrifennu, gwirio’ yn helpu gymaint gyda dyfyniadau Saesneg a Cymraeg.
MABLI: I gofio dyfyniadau, dwi’n hoffi dweud y dyfyniad mas 10 gwaith yn uchel. Yn drama, dwi’n ffeindio bod hynna’n fy helpu i ddysgu fy llinellau.
JAC: Mae cardiau fflach yn ffordd wych o gofio dyfyniadau, ac os ydych chi bach yn ddiog fel fi, mae modd defnyddio dyfyniadau sy’n berthnasol i fwy nag un cymeriad neu fwy nag un thema, ac felly mae angen i chi gofio llai.
MARI: Dwi’n hoff o fapiau meddwl oherwydd maen nhw’n ffordd hawdd o grynhoi gwybodaeth berthnasol mewn un lle.
MABLI: Oherwydd fy dyslecsia mae’n dda adolygu gyda fy ffrindiau. Maen nhw’n helpu fi ddysgu beth dwi’n gwybod a beth dwi ddim yn gwybod. Mae’n dda gwybod sut i gael y marciau.
JAC: Dwi’n adnabod llawer iawn o bobl sy’n dysgu mwy wrth wrando yn hytrach nag ysgrifennu. Mae’r podlediadau sydd ar gael ar y we dyddiau ‘ma yn ffordd wych o ddod i wybod mwy am y pwnc a dysgu mwy o safbwyntiau.
CAI: Un dull sy’n gweithio i fi yw tynnu lluniau o bethau, i gofio nhw’n well. Er enghraifft, efo bioleg a ffotosynthesis, dwi’n tynnu llun o haul, cwmwl o CO₂ a diferyn o ddŵr i gofio’r broses i gyd.
JAC: Mae trafod pethau ar lafar lawer yn fwy effeithiol, yn fy marn i, oherwydd mae’n helpu chi i ddatblygu syniadau’n ddyfnach nag os ydych chi’n sgwennu. Gallwch chi wneud hyn gyda brawd neu chwaer sydd yn yr ysgol sy’n deall beth rydych chi’n mynd trwyddo, neu ffrind. Mae modd i chi esbonio cwestiynau ac atebion iddyn nhw, ac os yw’ch esboniad chi ddim yn glir iawn iddyn nhw, bydd e probably ddim yn dod yn glir iawn i’r arholwr.
MARI: Os ti byth yn stryglo gydag adolygu, paid byth â bod ofn gofyn am help yr athrawes. Gwnes i hyn gyda Saesneg, a gwnaeth hi anfon llwyth o lincs at wefannau o’n i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw cynt, a gwnaeth e helpu fi gymaint.
JONA: Mae’r we’n gymorth gwych ar gyfer adolygu – neu ar gyfer adolygu TGAU yn benodol. Mae ‘na gymaint o adnoddau am ddim gan arbenigwyr, cyn-ddisgyblion, athrawon. Y peth gorau yw mae e mor fyr, felly i berson fel fi, sydd mor ddiamynedd, mae’n berffaith.
Tips cofio ac adolygu’r tîm



Mari “Mae’r dechneg ‘edrych, dweud, cuddio, ysgrifennu, gwirio’ yn helpu gymaint gyda dyfyniadau Saesneg a Chymraeg. I wneud hyn, dwi'n dewis dyfyniad dwi eisiau ei ddysgu ac yn ei ddweud e mas yn uchel, yna’n cuddio’r dyfyniad a’i ysgrifennu ar ddarn o bapur o fy nghof. Wedyn, dwi’n gwirio’r papur i weld os dwi wedi cofio’r dyfyniad yn gywir.”
Mabli "Oherwydd fy dyslecsia mae’n dda adolygu gyda fy ffrindiau. Maen nhw’n helpu fi ddysgu beth dwi’n gwybod a beth dwi ddim yn gwybod. Mae’n dda gwybod sut i gael y marciau.”
Jac “Dwi’n adnabod llawer iawn o bobl sy’n dysgu mwy wrth wrando yn hytrach nag ysgrifennu. Mae’r podlediadau sydd ar gael ar y we dyddiau ‘ma yn ffordd wych o ddod i wybod mwy am y pwnc a dysgu mwy o safbwyntiau.”

Cai “Un dull sy’n gweithio i fi yw tynnu lluniau o bethau, i gofio nhw’n well. Er enghraifft, efo bioleg a ffotosynthesis, dwi’n tynnu llun o haul, cwmwl o CO₂ a diferyn o ddŵr i gofio’r broses i gyd. Mae’r llun yn aml yn sticio yn fy meddwl yn well na’r wybodaeth ac yn hawdd i’w ‘weld’ yn yr arholiad.”



Jona “Mae’r we’n gymorth gwych ar gyfer adolygu – neu ar gyfer adolygu TGAU yn benodol. Mae ‘na gymaint o adnoddau am ddim gan arbenigwyr, cyn-ddisgyblion, athrawon. Y peth gorau yw mae e mor fyr, felly i berson fel fi, sydd mor ddiamynedd, mae’n berffaith.”
Jeia “Mae gweithio gyda ffrind i ateb cwestiwn arholiad ar lafar yn dechneg adolygu dda – mae'n gyfle i ti ymarfer dy bwyntiau di ac i glywed pwyntiau gwahanol.”
Eluned “Mae cardiau fflach yn effeithiol ar gyfer geirfa a dyddiadau. Maen nhw’n grêt i’w defnyddio i brofi dy hun ac wrth adolygu gyda ffrind.”

Manon “Dwi’n hoff o greu mapiau meddwl gydag isdeitl ac yna’n ehangu’r isdeitl hwnnw. Mae ychwanegu lluniau bach a digonedd o liw’n ei wneud yn ddeniadol i edrych arno ac yn haws i gofio pethau. Mae’r dechneg yma’n ddefnyddiol iawn mewn Cymraeg.”
Sut i wneud cardiau fflach
Mae cardiau fflach yn ddefnyddiol iawn pan rwyt ti’n adolygu. Maen nhw’n ffordd wych i ti brofi dy hun ac fe alli di greu rhai sy’n cynnwys gwybodaeth rwyt ti’n ei weld yn anodd ei gofio. Dyma tips defnyddiol ar sut i greu cerdyn fflach hwyliog a llawn ffeithiau ar gyfer unrhyw bwnc rwyt ti’n ei adolygu!
1 of 3
Sut i wneud map meddwl
Mae creu map meddwl yn gallu dy helpu di i grynhoi yr hyn rwyt ti’n ei wybod yn barod am bwnc ac i atgyfnerthu’r wybodaeth yn dy feddwl. Mae mapiau meddwl yn ffordd wych o osod llawer o wybodaeth am bwnc mewn un lle ac yn dy helpu di i gofio’r pethau rwyt ti angen eu gwybod. Dyma rai pethau defnyddiol i'w cofio pan fyddi di'n creu map meddwl, ac enghraifft i dy ysbrydoli!
1 of 3
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Adolygu: Tips gan arbenigwr
Cyngor gan arbenigwr ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Arholiadau ac asesiadau
Mae ein tîm ifanc yn trafod ac yn rhannu eu tips nhw ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Adolygu: Sut i fod yn drefnus
Cyngor ar sut i roi trefn ar dy waith a bod yn drefnus.






