Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd

Part ofStudy support

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm a’r Criw Cynghori yn rhannu eu cyngor am sut i aros yn bositif yn ystod cyfnod adolygu ac arholiadau.

Fideo: Aros yn bositif

Tips y tîm ar aros yn bositif

Jac “Cofia, does neb yn gallu bod yn 100% llwyddiannus. Y prif beth yw dy hapusrwydd."

Manon “Mae fy ffrindiau’n fy helpu i aros yn bositif. Ni gyd yn yr un cwch, felly mae siarad gyda phobl eraill yn helpu rhoi persbectif mwy positif i fi.”

Angharad “Gwna rywbeth sy’n gwneud i ti deimlo’n hapus. Mae hyn wastad yn help wrth aros yn bositif."

Nel “Un ffordd dwi’n aros yn bositif ydy creu targedau wythnosol i fi fy hun, fel ‘mod i’n gallu teimlo ‘mod i wedi cyflawni rhywbeth erbyn diwedd yr wythnos.”

Sara “Mae’n bwysig gwneud dy orau a cheisio gwneud yn dda, ond mae gallu academaidd pawb a iechyd meddwl pawb yn wahanol, felly gwna beth fedri di.”

Jack “Does neb yn hoffi cael marciau isel mewn prawf, dydy o ddim yn neis o gwbl. Ond y peth pwysig ydy, peidio sbïo ar y marc isel. Ffocysu ar yr adborth mae’r athro neu athrawes wedi’i roi i ti - hynny sy’n bwysig”.

Mabli “Gyda fy dyslecsia mae llawer o setbacks, ac mae’n anodd cadw’n bositif. Ond mae’n dda cofio bod setbacks yn gallu arwain at lwyddiant. Er enghraifft, dwi’n ffeindio hi’n anodd sillafu geiriau newydd. Ond unwaith dwi’n gallu gweld patrwm yn y gair, dwi’n gallu ei ddysgu, ac mae’n deimlad da iawn.”

Mari “Pan ti’n teimlo’n fflat, mae mor bwysig atgoffa dy hun bod ‘na bethau i edrych ymlaen atyn nhw. Rhywbeth bach fel mynd mas ar y penwythnos gyda ffrindiau, gwneud rhywbeth mwy fel prom neu’r gwyliau haf. Mae mor bwysig edrych ymlaen ac nid ‘nôl.”

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr

Tips, cyngor a syniadau ar sut i wneud y gorau o amser adolygu prin.

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr

Adolygu: Tips adolygu gwych

Cyngor call gan bobl ifanc sy’n gwybod beth yw beth.

Adolygu: Tips adolygu gwych

Adolygu: Sut i gofio pethau

Cyngor gan bobl ifanc ar sut i gofio a phrosesu gwybodaeth.

Adolygu: Sut i gofio pethau