Astudio ac ymlacio

Part ofStudy support

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.

Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn rhannu eu syniadau am sut i gadw cydbwysedd rhwng gwaith ac ymlacio.

Fideo: Cydbwysedd rhwng gwaith ac ymlacio

Tips y tîm ar sut i gadw cydbwysedd rhwng gwaith ac ymlacio

Sara “Mae’r demtasiwn i gadw i weithio a pheidio â stopio’n fawr, ond drwy gymryd seibiant rheolaidd, fe alli di roi hwb i dy berfformiad. Mae astudiaethau’n dangos y gall seibiannau leihau neu atal straen, a helpu cynnal perfformiad trwy gydol y dydd.”

Nel “Mae cael trît neu ryw fath o uchelgais yn yr wythnos yn lot o help. Mae’n gwneud i fi weithio’n fwy effeithiol.”

Jack “Dwi’n dysgu karate sawl gwaith yr wythnos, sy’n eithaf lot, ond mae’n frêc da o adolygu. Wrth i fi wneud karate ac ymarfer corff, dydy gwaith ysgol ddim yn dod i fy meddwl i o gwbl, sy’n rîli helpu fi i ymlacio.”

Eluned “I ymlacio, dwi’n chwarae’r piano, darllen, gweld ffrindiau, coginio a bwyta.”

Mabli "Dwi’n hoffi mynd i’r traeth i glirio fy meddwl.”

Jona “Dwi wir yn credu mai’r peth gadwodd fi’n gall yn ystod TGAU oedd edrych ymlaen at rywbeth o’n i wedi plano ar y penwythnos, megis cwrdd lan â ffrindiau, mynd am wâc, mynd i’r sinema.”

Cyngor Beca ar sut i fwyta’n dda ac edrych ar ôl dy hun

Gall dewis y math cywir o fwyd a diod dalu ar ei ganfed yn ystod cyfnod prysur adolygu ac arholiadau. Dyma gyngor gan yr arbenigwr bwyd Beca Lyne-Pirkis.

Adeg adolygu, carbohydradau yw dy ffrind!

Mae dy ymennydd yn defnyddio 20% o’r holl egni sydd ei angen ar dy gorff bob dydd. Mae bwyta prydau sy’n cynnwys llawer o garbohydradau yn golygu y bydd y lefelau glwcos yn dy waed yn aros yn gyson drwy’r dydd, sy’n golygu bydd gen ti ddigon o egni ar gyfer astudio.

Pa fath o fwydydd sy’n cynnwys carbohydradau?

  • Bwydydd cyflawn, ee pasta, ffa coch, quinoa, ceirch
  • Llysiau a ffrwythau, ee bananas, orennau, afalau, tatws melys
  • Cynnyrch llaeth, ee iogwrt a llaeth

Y noson cyn arholiad

Ar y noson cyn arholiad, mae gwneud yn siŵr dy fod yn cael pryd o fwyd sy’n cynnwys y prif faetholion sef carbohydradau, protein a braster, gydag amrywiaeth o lysiau, yn holl bwysig. Bydd hyn yn sicrhau bod y corff yn cael digon o egni, mwynau a fitaminau - felly hyd yn oed os na fydd awydd brecwast arnat ti ar fore'r arholiad, bydd digon o danwydd yn y tanc!

Bore arholiad

Mae cael brecwast sy’n cynnwys carbohydradau yn syniad da, er enghraifft:

  • uwd gyda iogwrt a ffrwythau
  • tost bara brown gyda banana
  • pysgod llawn omega-3 fel mecryll neu eog wedi’i fygu

Yfed yw un o’r pethau pwysicaf i helpu canolbwyntio ac i leddfu blinder - a dŵr yw’r ddiod orau i’w hyfed. Mae’r corff angen rhwng 1.5-2 litr y dydd. Gall peidio ag yfed digon o ddŵr achosi blinder a phen tost, a gall effeithio ar dy allu di i ganolbwyntio – sy’n holl bwysig wrth adolygu ac mewn arholiad.

Sut i gadw cydbwysedd rhwng gwaith ac ymlacio

Mae’n bwysig peidio ei gor-wneud hi pan rwyt ti’n adolygu a dy fod yn cadw cydbwysedd iach rhwng gweithio ag ymlacio. Dyma siart defnyddiol i dy atgoffa di i gynnwys amser i gael hwyl ac i ymlacio yn dy amserlen yn ogystal â gwaith ysgol ac adolygu!

Beth yw Meddwl ar Waith?

Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.

Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.

Os wyt ti angen cefnogaeth

Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).

Rhagor o gynnwys

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd

Cyngor ar sut i ddelio gyda phethau’n mynd o’i le yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.

Adolygu ac arholiadau: Sut i gadw i fynd

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr

Tips, cyngor a syniadau ar sut i wneud y gorau o amser adolygu prin.

Adolygu: Gadael pethau’n rhy hwyr

Adolygu: Tips adolygu gwych

Cyngor call gan bobl ifanc sy’n gwybod beth yw beth.

Adolygu: Tips adolygu gwych