Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 4 Ebrill 2022.
Mae arholiadau ac adolygu’n gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd gwahanol - ond paid â phoeni, mae tîm Meddwl ar Waith yma i dy helpu! Yn y bennod hon, mae’r tîm yn trafod sut wnaethon nhw’r gorau o’u hamser wrth drefnu eu sesiynau adolygu.
Fideo: Amserlenni a chynllunio
MANON: Dwi’n mwynhau creu amserlenni, a dwi’n credu bod gweld popeth lawr ar bapur yn hynod o fuddiol i mi.
JACK: Dwi’n arfer cychwyn efo’r gwaith anodd, so ar ôl i fi gychwyn blino ar y gwaith anodd, mae o’n anodd, i fod yn onest, erbyn y pwynt yma, gwna i fynd at bwnc sydd bach yn haws, rhywbeth dwi’n hoffi, ac mae o’n actio fel brêc o’r gwaith anodd.
CAI: Mae amserlen adolygu’n gweithio’n dda iawn i fi, achos dwi’n gwybod lle dwi’n sefyll a beth dwi angen gwneud bob dydd, felly mae’r straen llawer yn llai.
JEIA: Dwi’n defnyddio calendr i osod y pwnc efo slot amser penodol. Mae’n teimlo’n llai opsiynol wedyn.
STEFFAN: Mae ‘na lwyth o wahanol ffyrdd i greu amserlen. Beth dwi’n tueddu gwneud yw dechrau gyda’r arholiad sy’n digwydd gyntaf, ac wedyn adeiladu lan trwy’r holl broses.
ELUNED: Dwi’n defnyddio rhestr o flaenoriaethau gyda tick boxes fel fy mod yn gwybod yn union beth yw fy mwriadau.
CAI: Dwi’n rhannu fy mhynciau yn ôl unedau, ac yna dwi’n gwneud nodiadau ar yr unedau, ac yna dwi’n adolygu’r nodiadau.
ELUNED: Pan dwi’n adolygu dwi’n hoffi cymysgu pynciau hawdd ac anodd, achos yn amlwg mae gan bawb hoff bynciau, felly mae’n bwysig cael balans.
MANON: Mae’n well gen i adolygu dros gyfnod hir o amser, ac os yw hynny’n golygu rhyw 20 munud bob dydd, mae hynny’n help. Ond mae hefyd yn bwysig cael hoe fach.
STEFFAN: Yn bersonol, dwi’n tueddu adolygu yn yr wythnos ac yna cael y diwrnodau Sadwrn off. Mae hyn yn rhoi cyfle i fi fynd allan a chymdeithasu gyda ffrindiau.
JACK: Dwi’n meddwl bod cael brêcs yn hanfodol o bwysig. Er enghraifft, efo nodiadau, ar ôl eithaf tipyn o amser yn adolygu’r nodiadau, gwnewch chi gychwyn blino, ac mae bron yn wâst o amser oherwydd dyw pethau jyst ddim yn sticio.
MANON: Mae cael hoe tra’n adolygu’n bwysig iawn, a be’ dwi’n trio gwneud yw cynllunio i gwrdd â ffrindiau, oherwydd mae cael rhywbeth i edrych ‘mlaen ato, mewn cyfnod heriol, mor bwysig.
MARI: Dwi’n creu amserlen bersonol oherwydd bod cryfderau a gwendidau pawb mor wahanol. ‘Sdim pwynt dilyn amserlen ffrind sydd yn rîli dda yn mathemateg pan bo chi’n rîli wael. Byddan nhw falle ddim yn treulio llawer o amser arno fe, tra bo chi angen treulio llwyth.
JACK: Dwi’n arfer sgwennu pob dim i lawr ar y calendr – pa bwnc dwi wedi bod yn adolygu, pa mor hir a pryd. Ac mae hynna’n helpu fi i gadw trefn ar bob dim dwi wedi bod yn ei wneud, a fy helpu i greu cynllun ar gyfer y penwythnos nesaf hefyd.
LOIS: Mae gen i restr wirio ar gyfer pob pwnc. Ar ôl i mi orffen y pwnc yna, dwi’n rhoi tic wrth ei ymyl o, mae’n deimlad da.
CAI: Dwi’n gwneud un pwnc bob dydd, felly mae’n haws i gofio beth dwi wedi ei wneud, achos dwi’n gallu cofio beth dwi heb wneud, a dwi’n tshecio nhw off bob dydd, felly mae’n hawdd cadw trac.
STEFFAN: Mae’n werth cofio bod cyfnod arholiadau’n gallu para wythnosau, felly mae’n bwysig iawn cadw trefn ar bopeth a pheidio ofni’n ormodol.
Tips y tîm ar amserlenni a chynllunio



Cai “Mae amserlen adolygu’n gweithio’n dda iawn i fi, achos dwi’n gwybod lle dwi’n sefyll a beth dwi angen gwneud bob dydd, felly mae’r straen llawer yn llai.”
Steffan “Mae ‘na lwyth o wahanol ffyrdd i greu amserlen. Beth dwi’n tueddu gwneud yw dechrau gyda’r arholiad sy’n digwydd gyntaf, ac wedyn adeiladu lan trwy’r holl broses.”
Jeia “Dwi’n defnyddio calendr i osod y pwnc efo slot amser penodol. Mae’n teimlo’n llai opsiynol wedyn.”



Eluned "Pan dwi’n adolygu dwi’n hoffi cymysgu pynciau hawdd ac anodd, achos yn amlwg mae gan bawb hoff bynciau, felly mae’n bwysig cael balans.”
Jack “Dwi’n arfer cychwyn efo’r gwaith anodd, felly ar ôl i fi gychwyn blino ar y gwaith anodd fe wna i fynd at bwnc sydd bach yn haws, rhywbeth dwi’n hoffi, ac mae o’n actio fel brêc o’r gwaith anodd.”
Mari “Dwi’n creu amserlen bersonol oherwydd bod cryfderau a gwendidau pawb mor wahanol. Does dim pwynt dilyn amserlen ffrind sydd yn rîli dda yn Mathemateg pan bo chi’n rîli wael. Byddan nhw falle ddim yn treulio llawer o amser arno fe, tra bo chi angen treulio llwyth.”
Amserlen adolygu dda
Mae’n syniad da i greu amserlen adolygu sy’n caniatáu i ti wneud y gorau o dy amser - un sy’n sicrhau bod gen ti amser i ymlacio yn ogystal ag amser i wneud dy waith cartref ac adolygu. Bydd amserlen pawb yn wahanol, ond rydyn ni wedi creu esiampl i dy ysbrydoli di a hefyd amserlen wag i ti ei defnyddio fel man cychwyn i dy amserlen bersonol di.
1 of 2
Beth yw Meddwl ar Waith?
Cyfres o ffilmiau i dy gefnogi di yn ystod cyfnod dy arholiadau TGAU yw Meddwl ar Waith. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfrannu at y ffilmiau naill ai - fel ti - ar fin sefyll eu harholiadau neu wedi eu sefyll nhw’n barod. Mae’r tîm yn dod o bob rhan o Gymru ac er bod profiad pawb yn wahanol, mae un peth ganddyn nhw’n gyffredin - llwyth o gyngor da, tips a phrofiadau defnyddiol i’w rhannu gyda ti.
Yn y gyfres hon, byddwn hefyd yn clywed gan arbenigwyr, fel yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes fydd yn rhannu tips ar sut i gofio pethau. Bydd Dr Rob a gweddill y Criw Cynghori’n rhannu llwyth o gyngor gwych, gan gynnwys eu tips adolygu a chyngor ar sut i aros yn bositif.
Os wyt ti angen cefnogaeth
Os wyt ti’n poeni am bethau, cofia ddweud wrth rywun. Siarada gyda ffrind, rhiant, gwarchodwr, athro neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Os yw dy iechyd meddwl yn dioddef, mae mynd i weld dy feddyg teulu’n le da i ddechrau. Gall dy feddyg ddweud wrthot ti pa gefnogaeth sydd ar gael, rhoi cyngor ar driniaethau gwahanol a chynnig apwyntiadau rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.
Os wyt ti angen cefnogaeth yn y fan a’r lle, cysyllta gyda Childline, ble cei di siarad gyda chwnselydd. Mae’r llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar BBC Action Line (Cynnwys Saesneg).
Rhagor o gynnwys
Adolygu: Sut i ddechrau arni
Cyngor ar sut i fynd ati i ddechrau adolygu.

Adolygu: Sut i gadw’n cŵl
Cyngor ar sut i gadw’n cŵl wrth adolygu.

Astudio ac ymlacio
Cyngor ar sut i gael y cydbwysedd cywir rhwng astudio ac ymlacio.


