
Mae Sian yn gyfrifol am annog partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu yn ogystal ag ystod eang o ddyletswyddau. Mae’n arwain ar ddatblygu’r bartneriaeth gydag S4C, fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygiad talent cynhyrchu, amrywiaeth ar yr awyr, a rhaglenni radio BBC Cymru i’r rhwydwaith.
Roedd Sian yn Bennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Iaith Gymraeg o 2012 - 2016 ac yn Olygydd BBC Radio Cymru 2006-2012.
Mae cefndir Sian mewn newyddiaduraeth ac ymunodd â'r BBC yn 1994 fel ymchwilydd ar newyddion Radio Cymru a chafodd ei gwneud yn Olygydd y rhaglen Newyddion yn 2003. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf bu'n gweithio yng Nghymru fel newyddiadurwr ar bapurau newydd a chylchgronau ac fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ar nifer o raglenni newyddion radio a theledu. Yn wreiddiol o’r Bala cafodd ei haddysg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala a Choleg Newnham, Caergrawnt, lle bu’n astudio Hanes ac Astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd.

Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau
Dafydd Meredydd
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro











