
Fel Pennaeth Newyddion, mae Delyth yn gyfrifol am yr holl wasanaethau newyddion a materion cyfoes sy’n ymddangos ar-lein, ar ddyfeisiau symudol, ar radio ac ar deledu. Mae’n arwain tîm o newyddiadurwyr o bob cwr o Gymru ac yn San Steffan.
Dechreuodd Delyth ei gyrfa gyda phapurau newydd lleol cyn ymuno â BBC Cymru fel ymchwilydd. Aeth ymlaen i weithio ym maes cynhyrchu newyddion ar y radio a’r teledu cyn arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni gwleidyddol gan gynnwys pob un o’r rhaglenni canlyniadau’r etholiadau ar gyfer S4C a BBC Cymru rhwng 2001 a 2017. Yn 2014, penodwyd Delyth yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru ac yn 2018 daeth yn Olygydd BBC Wales Today.
Rhwng 2013 a 2014, bu Delyth yn gweithio fel Uwch Reolwr Cyfathrebu ar gyfer BBC Cymru. Buodd yn Ymddiriedolwr gyda Hijnx, cwmni theatr sy’n hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth am ddeng mlynedd. Mae yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru i’r Cyngor Prydeinig.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mynychodd Delyth Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Yna, bu’n astudio Gwleidyddiaeth Ffrainc ac Ewrop ym Mhrifysgol Manceinion gan dreulio blwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Rennes. Mae Delyth yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu.

Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau
Dafydd Meredydd
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro











