
Fel Uwch Bartner Busnes Cyllid, mae Nia yn gyfrifol am reoli arian yn effeithiol, ac am ddarparu cymorth ymgynghorol i BBC Cymru Wales. Mae Nia yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm, yn sbarduno newid drwy ddiffinio strategaeth ariannol a chysoni cynlluniau â’r adnoddau ariannol sydd ar gael i sicrhau’r gwerth gorau i’r rhai sy’n talu’r drwydded.
Mae Nia yn Gyfrifydd Siartredig, a bu’n cael hyfforddiant gyda Deloitte yng Nghaerdydd – cyn symud i swyddfa Bermuda. Cyn ymuno â’r BBC, roedd Nia yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Senedd Cymru rhwng 2016 a 2023, ac roedd yn un o Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Aelodau’r Senedd. Mae hi hefyd bod mewn swyddi cyllid uwch yn y sector tai a’r sector iechyd.
Yn wreiddiol o Flaendulais, mynychodd Nia Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg ac, yn fwy diweddar, Gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA).
Mae Nia yn byw yn Abertawe gyda’i theulu.

Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau
Dafydd Meredydd
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro











