
Mae Sarah yn gyfrifol am arwain strategaeth pobl yn BBC Cymru Wales ac am weithio mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr, i gyfrannu at gyfeiriad strategol y busnes i’r dyfodol. Mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys dylunio, newid a thrawsnewid sefydliadol, rheoli talent ac adnoddau, a datblygu arweinyddiaeth.
Ymunodd Sarah â thîm Adnoddau Dynol y BBC yn 2011, yn dilyn swyddi gyda Capita a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Daw Sarah yn wreiddiol o Bort Talbot, a mynychodd Ysgol Gyfun Sandfields. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac aeth ymlaen i gael ei haelodaeth o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Datblygiad Proffesiynol (CIPD) ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2013. Mae Sarah bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu.

Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau
Dafydd Meredydd
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro











