
Fel Cyfarwyddwr Dros Dro Cymru, mae Garmon yn arwain Timau Gweithredol BBC Cymru a bydd ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros y strategaeth cynnwys a’r blaenoriaethau golygyddol ar draws yr holl lwyfannau a gwasanaethau – radio, fideo ac ar-lein – yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, dechreuodd Garmon ei yrfa newyddiadurol yn y BBC yn 2000 cyn mynd ati i weithio fel cynhyrchydd teledu a radio ar allbwn gwleidyddol a materion cyfoes.
Am dair blynedd bu'n arwain datblygiad a chynllunio strategaeth ar draws BBC Cymru, cyn ail-ymuno â'r adran newyddion fel Dirprwy Bennaeth yn 2012 i arolygu newyddiaduraeth gwleidyddol, arbenigol a newyddiaduraeth Gymraeg. Yn 2017, daeth yn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes, gan arwain datblygiad newyddion a materion cyfoes arlein, symudol, radio a theledu.
Yn 2022, symudodd ymlaen i arwain prosiect trawsnewid digidol Lleol Gwerth i Bawb yn Lloegr ac roedd yn aelod o Dîm Arwain Busnes a Gweithrediadau'r Cenhedloedd.

Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau
Dafydd Meredydd
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro











