Eluned Morgan yn cofio bod mewn damwain awyren 'trawmatig' yn Sbaen

Llun o'r awyrenFfynhonnell y llun, Real Sociedad de Golf de Neguri
Disgrifiad o’r llun,

Mae llun o'r awyren i'w weld mewn llyfr am hanes y clwb golff ble aeth yr awyren i lawr

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru'n dychwelyd i ardal yng ngogledd Sbaen ddydd Iau ble y bu mewn damwain awyren yn blentyn.

Roedd Eluned Morgan yn teithio mewn awyren gyda'i thad, ei mam a'i tri brawd yn 1978 pan aeth yr awyren i lawr ar gwrs golff ger Bilbao.

Roedd teulu Ms Morgan, a oedd yn 11 oed ar y pryd, ar eu ffordd adref o Malaga ac mae'r Prif Weinidog yn cofio darn o'r awyren yn cael ei rwygo allan yn y digwyddiad.

"Roedd yr adenydd ar dân" meddai ond "diolch byth fe lwyddodd pawb i ddianc" er eu bod wedi cael "y sioc fwyaf o'n bywydau".

Mae Ms Morgan yn Sbaen ar hyn o bryd er mwyn hybu'r gwaith o fasnachu â Gwlad y Basg a Chatalwnia.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Roedden ni ar goll yn llwyr ac yn bryderus iawn," medd Eluned Morgan wrth gofio'r digwyddiad

Digwyddodd y ddamwain ar ôl i deulu Ms Morgan gael cynnig gwyliau am ddim, ond doedden nhw methu â derbyn y cynnig gan nad oedden nhw'n gallu hedfan teulu o chwech allan i Sbaen meddai.

"Ond, fe gynigiodd rhywun i'n hedfan ni yno yn eu hawyren nhw."

Ar y daith yn ôl, roedd yr awyren 'Cessna' i fod i gael rhagor o danwydd yn Bilbao, ond dywedodd bod llawer o niwl yn gorwedd yn isel yno.

"Gan nad oedd y peilot yn gallu gweld y man glanio, fe ddaeth o gyfeiriad y môr" meddai cyn iddo sylweddoli bod clogwyn o'i flaen.

"Tynnodd i fyny'n gyflym iawn, fe wnaeth yr injan ddiffodd ac fe daron ni mewn i gwrs golff yng ngogledd Sbaen".

Hen bapur newydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe barhaodd mam y Prif Weinidog yn anymwybodol yn dilyn y digwyddiad a bu rhaid i'w brawd pedair oed fynd i'r ysbyty

Roedd pawb ar yr awyren yn anymwybodol "am ychydig eiliadau" meddai ond fe barhaodd ei mam yn anymwybodol.

"Llwyddon ni i agor y drws a rhuthro allan, ond doedd ganddom ni ddim syniad beth oedd yn digwydd.

"Doedd ganddom ni ddim syniad os oedd yr awyren am ffrwydro.

"O'n ni ar goll yn llwyr ac yn bryderus iawn am fy mam yn amlwg, oedd yn gwaedu o'i phen, ac am y peilot, a'r fenyw arall oedd gyda ni" a oedd yn ffrind teulu.

"Fe dorrodd yr holl oedolion asennau oherwydd y gwregysau diogelwch" meddai.

Ond roedd ei brawd pedair oed yn "eistedd ar lin fy nhad ac yn lle cracio asennau fy nhad, fe graciodd [y gwregys] asgwrn cefn fy mrawd", eglurodd.

Aeth ei brawd i'r ysbyty a bu rhaid iddo gael ei gludo ar stretsier yn ôl i'r DU "a bu'n rhaid iddo beidio â symud am nifer o fisoedd".

"Arhosodd fy mam yn yr ysbyty gyda fy mrawd bach" meddai ond "fe wnes i a dau o fy mrodyr ddianc heb fawr o niwed.

"Roedd fy nhad eisiau aros gyda fy mam yn amlwg, felly roedd yn rhaid i ni ddod yn ôl ar ein pennau ein hunain.

"Ac roedd hynny, yn amlwg, yn brofiad brawychus - dod yn ôl i Gymru heb rieni, ar ôl digwyddiad eithaf trawmatig."

Imanol Pradales (chwith) a Salvador IllaFfynhonnell y llun, Getty Images + EPA/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi bod yn gweithio ar gytundebau gyda llywydd Gwlad y Basg, Imanol Pradales (chwith) a llywydd Catalwnia, Salvador Illa

Ond, dywedodd Ms Morgan ei bod hi'n rhy ifanc ar y pryd i'r digwyddiad gael effaith ddofn arni.

Roedd pobl y cwrs golff yn "wirioneddol garedig a hael hefo ni" ar ôl y ddamwain, meddai.

"Fe wnes i fynd â fy rhieni yn ôl i ymweld â nhw nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, i ddiolch iddyn nhw.

"Mae'n hyfryd mynd yn ôl nawr i ddweud diolch iddyn nhw am y gefnogaeth roddon nhw i ni, ac yn amlwg byddwn ni'n diolch bob dydd am y ffaith ein bod ni wedi goroesi'r hyn a allai fod wedi bod yn sefyllfa drasig iawn, iawn," ychwanegodd.

Mae Ms Morgan yn Sbaen ar hyn o bryd er mwyn ceisio gwella'r berthynas â Gwlad y Basg a Chatalwnia o ran masnachu.

Fe lofnododd Ms Morgan gytundeb newydd, sy'n cael ei alw'n Femoranda o Ddealltwriaeth, gyda llywydd Catalwnia, Salvador Illa, yn Barcelona ddydd Mercher.

Mi fydd hi'n llofnodi cytundeb arall ddydd Iau gyda Llywydd Gwlad y Basg, Imanol Pradales.

Mae'r cytundebau'n ymrwymo i weithio ar y cyd mewn meysydd fel technoleg, ynni adnewyddadwy a diwylliant.

Yn rhan o'i thaith mae Ms Morgan hefyd yn ymweld â Chanolfan Uwchgyfrifiadura Barcelona, ​​un o sefydliadau busnes mwyaf blaenllaw Catalwnia, Foment del Treball, a'r grŵp ynni adnewyddadwy Haizea Wind yn Bilbao.

"Fel Catalwnia a Gwlad y Basg, mae Cymru'n ffynnu mewn diwydiannau uwch sydd â photensial economaidd enfawr, fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch ac ynni adnewyddadwy," meddai'r Prif Weinidog.

"Mae llawer gyda ni i'w rannu a'i ddysgu oddi wrth ein gilydd, er mwyn helpu i dyfu ein heconomïau, yn ogystal â chryfhau ein hieithoedd a'n diwylliannau unigryw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.