Mae'n bosib storio egni a'i ddefnyddio i wneud gwaith rhywbryd arall.
Er mwyn gwneud i wrthrychau symud neu wneud i bethau eraill ddigwydd, mae angen egni.
Y mwyaf y grym sy'n ofynnol (neu po fwyaf y newid) y mwyaf o egni sydd ei angen.
Yr uned egni safonol yw'r joule (J).
Nid yw'n bosib creu na dinistrio egni - dim ond ei newid o un ffurf i ffurf arall.
Yr Haul yw prif ffynhonnell egni'r Ddaear.
Defnyddir adnoddau egni adnewyddadwy (e.e. gwynt, solar, tonnau a pren) ac anadnewyddadwy (e.e. glo, olew, nwy a niwclear) i gynhyrchu trydan.
Mae gwahaniaeth rhwng tymheredd a'r egni mewnol sydd wedi storio mewn corff.
Mae trosglwyddiad egni yn digwydd o lefydd egni uchel i lefydd egni isel. Er bod egni bob amser yn cael ei gadw, gellir ei afradloni, gan leihau'r hyn sydd ar gael fel adnodd.