|  |
 |  | |  |
 |  |  |  |  |  |  |  Er mwyn deall Y Ddaear a Thu Hwnt, rhaid i ti gofio:
Mae'r Ddaear yn troelli ar ei hechelin 'gogledd-de' unwaith pob 24 awr, a dyma pam rydyn ni'n cael dydd a nos.
 Mae'r Ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr Haul unwaith pob 365 diwrnod. Mae'r echelin 'gogledd-de' ar ogwydd, ac weithiau yn pwyntio tuag at yr Haul (haf) a weithiau i ffwrdd o'r Haul (Gaeaf).
Mae'r Haul yn codi yn y Dwyrain ac yn machlud yn y Gorllewin, ac ar ei uchaf ar ganol dydd. Mae hefyd yn uwch yn yr awyr yn ystod yr haf nag yn y gaeaf.
Mae cysgodion hir yn ffurfio wrth i'r Haul godi a machlud, ac mae'r cysgodion yn fyr ar ganol dydd.
Mae naw planed yng Nghysawd yr Haul a rhaid i ti wybod eu trefn (Mercher, Gwener, Y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion, Plwton).
Mae'r planedau i gyd yn cylchdroi o amgylch yr Haul. Dyma ffordd hawdd i gofio enwau'r planedau:

Mewn - Mercher gwely - Gwener y - y Ddaear mae - Mawrth Ianto'n - Iau sâl - Sadwrn wedi - Wranws naw - Neifion pwdin - Plwton Y pellaf yw'r blaned oddi wrth yr Haul, yr hiraf mae'n cymryd i gwblhau orbit o'i gwmpas.

| |  |  | 
|  | |  | |  |  |  |
|  | |  |
|  |
 |