|  |
 |  | |  |
 |  |  |  |  |  |  |  Er mwyn deall Tonnau, rhaid i ti gofio:
Mae goleuni'n teithio ar fuanedd o 300,000,000 (300 miliwn) metr yr eiliad mewn llinell syth.
 Mae golau'n teithio llawer mwy cyflym na sain (tua miliwn gwaith mwy cyflym - 300m/s). Mae pethau 'anoleuol' yn gwasgaru golau pethau 'goleuol', ac yn cael eu gweld pan mae'r golau yn cyrraedd ein llygaid. Mae cysgod yn cael ei ffurfio wrth i rywbeth didraidd dorri ar draws y golau. Mae'n bosib newid maint y cysgod.
Mae adlewyrchiad rheolaidd yn dod oddi ar arwyneb plân.
Mae golau'n plygu ar y ffin rhwng dau ddefnydd tryloyw gwahanol. Mae golau gwyn yn gymysgedd o liwiau'r enfys ac yn rhan o'r sbectrwm electromagnetig.
Mae microdonnau, tonnau radio, a thonnau isgoch (rhan egni isel y sbectrwm) yn cael eu defnyddio mewn cyfathrebu.
Mae pelydrau X, a phelydrau gama (rhan egni uchel y sbectrwm) yn cael eu defnyddio mewn meddygaeth.
Mae'n bosib dyfalu lliw gwrthrych drwy hidlen, neu mewn golau arbennig wrth gofio'r lliwiau cynradd ac eilaidd.
Adlais yw adlewyrchiad sain.
 Pethau sy'n dirgrynu sy'n cynhyrchu sain, ac fe'u synhwyrir gan ein clustiau. Mae angen molecylau i drosglwyddo sain. Y mwyaf o egni sydd gan sain y mwyaf yw'r sŵn, a'r mwyaf yw'r osgledd. Y mwyaf yw traw sain y mwyaf yw'r amledd a'r lleiaf yw'r tonfedd. Mae gormod o sŵn yn gallu bod yn broblem. | |  |  | 
|  | |  | |  |  |  |
|  | |  |
|  |
 |