|  |
 |  | |  |
 |  |  |  |  |  |  |  Er mwyn deall Grymoedd, rhaid i ti gofio:
'Gwthiad' neu 'Tyniad' yw grym.
Mae grym yn gallu troi, newid siâp, newid cyflymder a newid cyfeiriad gwrthrych.
 Mae'n bosib mesur grym gan ddefnyddio clorian sbring, mewn Newtonau(N). Mae grymoedd yn gweithio mewn parau. Os ydyn nhw'n hafal, does dim newid, ond os yw un yn fwy na'r llall fe fydd newid yng nghyfeiriad a/neu buanedd y gwrthrych hwnnw. Wrth adolygu grymoedd, mae'n ddefnyddiol bob amser i dynnu diagram syml i ddangos y grymoedd sy'n gweithredu, a'u cyfeiriadau.
 Disgyrchiant yw'r grym sy'n tynnu pob más at ganol y Ddaear. Ffrithiant yw'r grym sydd bob amser yn gwrthwynebu symudiad. Weithiau, mae gan rym effaith troi (moment) yn dibynnu ar faint y grym a phellter y grym o'r pwynt troi.
Mae buanedd gwrthrych yn dibynnu ar yr amser mae'n ei gymryd i deithio pellter arbennig [Buanedd = pellter/amser. Unedau:- m/s].
 Gwasgedd yw'r berthynas feintiol rhwng y grym sy'n gweithredu ar arwyneb, a'r arwynebedd y mae'n gweithredu drosto [Gwasgedd = grym/arwynebedd. Unedau:- N/m2 neu Pa]. | |  |  | 
|  | |  | |  |  |  |
|  | |  |
|  |
 |