|  |
 | |  |
 |  |  |  | | addasiad, addasiadau | adaptation(s) | | unrhyw newid mewn planhigyn neu anifail sy'n digwydd am fod ei gynefin yn newid. Mae'r addasiad yn gymorth iddo barhau i fyw |  | | addasu | to adapt | | y broses o newid er mwyn goroesi (para i fyw) mewn cynefin sy'n newid |  | | adlewyrchu | to reflect | | mae goleuni yn gwneud hyn wedi taro arwyneb sgleiniog - tebyg i bêl yn bownsio oddi ar arwyneb caled |  | | adnodd(au) egni adnewyddadwy | renewable energy source(s) | | cronfa egni sy wastad ar gael, dim diwedd iddo, megis egni gwynt neu donnau'r môr |  | | adnodd(au) egni anadnewyddadwy | non-renewable energy source(s) | | cronfa egni sy'n gorffen ar ôl hir ddefnydd ohono, megis glo neu olew |  | | adwaith | reaction | | 'Gornest' rhwng dau gemegyn gan arwain, fel rheol, at greu cemegau gwahanol e.e. ocsigen a hydrogen yn ffurfio dŵr |  | | afu(iau) | liver | | organ pwysig iawn yn y corff dynol (ac mewn anifeiliaid eraill), yr organ mwyaf; ei waith yw glanhau'r gwaed |  | | alcali | alkali | | hylif gyda rhif pH rhwng 7 a 14, y gwrthwyneb i asid, e.e. sodiwm bicarbonad |  | | amgylchedd | environment | | yn gyffredinol yr holl atmosffer a'r tir o'n cwmpas |  | | amledd | frequency | | y nifer o weithiau y bydd symudiad nôl-ac-ymlaen (osgiliad) yn digwydd mewn eiliad |  | | amrywiaeth | variety | | casgliad o bethau o'r un math ond yn wahanol e.e. pobol mewn torf, peli mewn bocs |  | | amrywiadau | variations | | rhywbeth gwahanol rhwng pethau (byw neu ddim) sy fel arall yn debyg iawn i'w gilydd e.e. lliw llygaid mewn pobol, lliw petalau mewn rhosod |  | | amsugno | to absorb | | y broses sy'n achosi i hylif neu nwy fynd i mewn i gorff rhywbeth e.e. dŵr yn mynd i mewn i sbwng, egni'r Haul yn cael ei dderbyn gan ddeilen planhigyn |  | | anadlu | to breathe | | y broses o symud aer i mewn i'r corff dynol ac allan, mae'r frest yn symud i alluogi hyn i ddigwydd yn yr ysgyfaint |  | | anfetel | non-metal | | solid (fel arfer) sy ddim yn fetel e.e. pren, gwydr, plastig |  | | anghildroadwy | irreversible | | newid cemegol sy wedi digwydd am byth - does dim troi'n ôl e.e. toes, burum a dŵr yn newid i ffurfio bara |  |
| | anhydawdd | insoluble | | disgrifiad o solid sy ddim yn hydoddi mewn dŵr (na hylifau cyffredin eraill) e.e. tywod, carreg, pren |  | | anther, antherau | anther(s) | | rhan o flodyn lle mae'r paill (celloedd rhyw gwrywaidd) |  | | anwedd dŵr | water vapour | | y ffurf 'nwyol' i ddŵr; mae hwn yn bodoli uwchben arwyneb dŵr; nid yr un peth â stêm (ager) |  | | anweddu | evaporate | | y broses sy'n digwydd wrth i ddŵr hylif droi yn anwedd dŵr e.e. pan fydd pwll glaw ar y stryd yn raddol ddiflannu |  | | anwedd | vapour | | y sylwedd 'nwyol' sy'n bodoli uwchben lefel hylif neu a greïr pan fydd hylif yn 'diflannu' (anweddu) i'r atmosffer |  | | aren, arennau | kidney(s) | | organ pwysig yn y corff dynol sy'n gwneud y gwaith o dynnu gwastraff (wrea) o'r gwaed |  | | arnofio | to float | | y gallu sy gan wrthrychau (gan gynnwys pobl) i orwedd yn llonydd ar wyneb hylif heb suddo |  | | asen(nau) | rib(s) | | asgwrn yn y frest, un o set (cawell)o rai tebyg. Gwaith y cawell yw amddiffyn yr ysgyfaint a'r galon. Mae'r gawell yn symud pan fydd person yn anadlu |  | | asgwrn cefn | backbone | | nid un asgwrn yw hwn, ond 'cadwyn' o esgyrn yn y cefn o'r gwddf i'r pelfis. Fertebrat yw enw'r grŵp o anifeiliaid sy ag asgwrn cefn |  | | asgwrn,esgyrn | bone(s) | | aelod o'r sgerbwd - darn cymharol galed ond gellir ei dorri mewn damwain. Mae ei berfedd yn feddal |  | | asid | acid | | hylif gyda rhif pH rhwng 1 a 6. Peryglus iawn i bobl am ei fod yn gallu cyrydu ('bwyta') hyd yn oed solidau caled megis haearn |  | | atgenhedlu | to reproduce | | y broses o greu baban newydd o ddyn a menyw |  | | atom | atom | | y ffurf symlaf, sefydlog o unrhyw elfen gemegol - ein darlun (model) yw bod atom yn cynnwys craidd canolog (niwclews) gydag electronau o'i gwmpas |  | | atyniad | attraction | | grym rhwng dau wrthrych sy'n peri iddynt geisio closio at ei gilydd |  | | atynnu | to attract | | dyma beth mae un gwrthrych yn ei wneud i wrthrych arall gan beri i'r ail geisio mynd at y cyntaf |  |
|
|  |  |
|
|