| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
![]() Sgwrs rhwng dau neu fwy o bobl neu gymeriadau yw deialog. Rydyn ni'n clywed deialog o'n cwmpas bob dydd - Er enghraifft, yn yr ysgol: Deialog yw'r hyn sy'n cael ei ddweud a'r ffordd mae'n cael ei ddweud. "Rwy'n teithio i Gaerdydd i weld cyngerdd heno," meddai Gwenno yn hapus. Wrth ysgrifennu deialog, gallwn sôn am: ![]() Wrth gynnwys deialog mewn stori neu ddrama, mae hyn yn gwneud i'r cymeriad ddod yn fyw - yn rhoi cig a gwaed ar y sgerbwd fel petai! Mae deialog yn gallu dangos i ni'r berthynas sydd gan bobl neu gymeriadau gyda'i gilydd. Gwyliwch y clip yma o raglen Pobl y Cwm. Sylwch ar sut mae'r cymeriadau yn ymateb i'w gilydd. Ydy'r ddeialog yn naturiol? Trafodwch. Tybed sut gafodd y ddeialog yna ei gofnodi? Rydyn ni'n gallu cofnodi'r ddeialog mewn dwy ffordd: Darllenwch y darn isod o'r nofel Ta-Ta-Tryweryn gan Gwenno Huws (tud 30). Bydd y gwahaniaethau'n dod yn gliriach i chi. "Mae gennym ni, blant ysgol Celyn, hawl i ddangos ein gwrthwynebiad i Gyngor Lerpwl hefyd!" mynnodd Bedwyr. "'Rargoledig!" Daeth llais mam Huw a Mari o'r dorf. "'Rydan ni wedi bod dros hyn i gyd sawl gwaith, a dw i wedi dweud wrthoch chi'ch dau nad lle plant ydi protestio!" "Dydi hynna ddim yn deg!" taerodd Bedwyr. "Mae gennym ni gystal hawl â neb i gefnogi'r Pwyllgor Amddiffyn! Ein capel ni ydi hwn!" pwysleisiodd. "Ein hysgol ni ydi honna!" pwyntiodd ati. "A'r rhain ydi'n cartrefi ni!" Amneidiodd o'i gwmpas. "Mae gennym ni gystal hawl â neb i ymladd drostyn nhw!" Gallai Bedwyr deimlo llygaid Mr Evans yn serennu arno. "Chi wedi bod yn fishi!" meddai wrth y plant, gan gyfeirio at y faner a'r posteri. "Rydan ni eisio dangos ein bod ni o ddifri," meddai Bedwyr. "Fe alla i weld hynny." "Rydan ni'n addo na fyddwn ni ddim o dan draed ac y gwnân ni'n union fel y dywedwch chi wrthan ni," ychwanegodd Bedwyr. "A phwy sy'n mynd i edrych ar ôl yr ŵyn?" gofynnodd ei fam. "Wy'n siŵr y gall y defed ddishgwl ar ôl eu hunain am un diwrnod," meddai Mr Evans gan wincio ar Bedwyr. Darllenwch yr un darn ar ffurf drama: Bedwyr: Mae gennyn ni, blant ysgol Celyn, hawl i ddangos ein gwrthwynebiad i gyngor Lerpwl hefyd! Mam Huw a Mari: Rargoledig! Rydan ni wedi bod dros hyn sawl gwaith, a dw i wedi dweud wrthoch chi'ch dau nad lle plant ydi protestio! Bedwyr: [yn uchel] Dydi hynna ddim yn deg! Mae gennyn ni gystal hawl â neb i gefnogi'r pwyllgor amddiffyn! Ein capel ni yw hwn! Ein hysgol ni yw honna, a'r rhain yw'n cartrefi ni! Mae gennym ni gystal hawl â neb i ymladd drostyn nhw! Mr Evans: [yn pwyntio at y baneri a'r poster] Chi 'di bod yn fishi! Bedwyr: Rydan ni eisio dangos ein bod o ddifri'. Mr Evans: Fe alla'i weld hynny. Bedwyr: [yn ychwanegu'n sydyn at sgwrs Mr Evans] Rydan ni'n addo na fyddwn ni ddim o dan draed ac y gwnân ni'n union fel y dywedwch chi wrthan ni. Mam: A phwy sy'n mynd i edrych ar ôl yr ŵyn? Mr Evans: Wy'n siŵr y gall y defed ddishgwl ar ôl eu hunain am un diwrnod. Beth yw'r gwahaniaethau tybed? Fe fyddwn yn edrych yn fanylach ar hyn yn y ddalen ffeithiau nesaf. Beth am i ddau disgybl baratoi sgwrs fer ar bapur, ac yna dod i flaen y dosbarth i'w berfformio. Gall gweddill y disgyblion gofnodi'r sgwrs ar bapur neu ar fwrdd gwyn rhyngweithiol! Pob lwc! | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |