CA2 Creu Deialog - Beth yw deialog?

Beth yw deialog?

Sgwrs rhwng dau neu fwy o bobl neu gymeriadau yw deialog. Rydyn ni'n clywed deialog o'n cwmpas bob dydd -

Er enghraifft, yn yr ysgol:
Beth yw deialog?

Deialog yw'r hyn sy'n cael ei ddweud a'r ffordd mae'n cael ei ddweud.

"Rwy'n teithio i Gaerdydd i weld cyngerdd heno," meddai Gwenno yn hapus.

Wrth ysgrifennu deialog, gallwn sôn am:

Beth yw deialog?

Wrth gynnwys deialog mewn stori neu ddrama, mae hyn yn gwneud i'r cymeriad ddod yn fyw - yn rhoi cig a gwaed ar y sgerbwd fel petai!

Mae deialog yn gallu dangos i ni'r berthynas sydd gan bobl neu gymeriadau gyda'i gilydd.

Gwyliwch y clip yma o raglen Pobl y Cwm. Sylwch ar sut mae'r cymeriadau yn ymateb i'w gilydd. Ydy'r ddeialog yn naturiol? Trafodwch.

clip fidio

Tybed sut gafodd y ddeialog yna ei gofnodi?

Rydyn ni'n gallu cofnodi'r ddeialog mewn dwy ffordd:

Darllenwch y darn isod o'r nofel Ta-Ta-Tryweryn gan Gwenno Huws (tud 30). Bydd y gwahaniaethau'n dod yn gliriach i chi.

"Mae gennym ni, blant ysgol Celyn, hawl i ddangos ein gwrthwynebiad i Gyngor Lerpwl hefyd!" mynnodd Bedwyr.
"'Rargoledig!" Daeth llais mam Huw a Mari o'r dorf. "'Rydan ni wedi bod dros hyn i gyd sawl gwaith, a dw i wedi dweud wrthoch chi'ch dau nad lle plant ydi protestio!"
"Dydi hynna ddim yn deg!" taerodd Bedwyr. "Mae gennym ni gystal hawl â neb i gefnogi'r Pwyllgor Amddiffyn! Ein capel ni ydi hwn!" pwysleisiodd. "Ein hysgol ni ydi honna!" pwyntiodd ati. "A'r rhain ydi'n cartrefi ni!" Amneidiodd o'i gwmpas. "Mae gennym ni gystal hawl â neb i ymladd drostyn nhw!"
Gallai Bedwyr deimlo llygaid Mr Evans yn serennu arno.
"Chi wedi bod yn fishi!" meddai wrth y plant, gan gyfeirio at y faner a'r posteri.
"Rydan ni eisio dangos ein bod ni o ddifri," meddai Bedwyr.
"Fe alla i weld hynny."
"Rydan ni'n addo na fyddwn ni ddim o dan draed ac y gwnân ni'n union fel y dywedwch chi wrthan ni," ychwanegodd Bedwyr.
"A phwy sy'n mynd i edrych ar ôl yr ŵyn?" gofynnodd ei fam.
"Wy'n siŵr y gall y defed ddishgwl ar ôl eu hunain am un diwrnod," meddai Mr Evans gan wincio ar Bedwyr.

Darllenwch yr un darn ar ffurf drama:

Bedwyr: Mae gennyn ni, blant ysgol Celyn, hawl i ddangos ein gwrthwynebiad i gyngor Lerpwl hefyd!

Mam Huw a Mari: Rargoledig! Rydan ni wedi bod dros hyn sawl gwaith, a dw i wedi dweud wrthoch chi'ch dau nad lle plant ydi protestio!

Bedwyr: [yn uchel] Dydi hynna ddim yn deg! Mae gennyn ni gystal hawl â neb i gefnogi'r pwyllgor amddiffyn! Ein capel ni yw hwn! Ein hysgol ni yw honna, a'r rhain yw'n cartrefi ni! Mae gennym ni gystal hawl â neb i ymladd drostyn nhw!

Mr Evans: [yn pwyntio at y baneri a'r poster] Chi 'di bod yn fishi!

Bedwyr: Rydan ni eisio dangos ein bod o ddifri'.

Mr Evans: Fe alla'i weld hynny.

Bedwyr: [yn ychwanegu'n sydyn at sgwrs Mr Evans] Rydan ni'n addo na fyddwn ni ddim o dan draed ac y gwnân ni'n union fel y dywedwch chi wrthan ni.

Mam: A phwy sy'n mynd i edrych ar ôl yr ŵyn?

Mr Evans: Wy'n siŵr y gall y defed ddishgwl ar ôl eu hunain am un diwrnod.

Beth yw'r gwahaniaethau tybed?

Fe fyddwn yn edrych yn fanylach ar hyn yn y ddalen ffeithiau nesaf.

Beth am i ddau disgybl baratoi sgwrs fer ar bapur, ac yna dod i flaen y dosbarth i'w berfformio. Gall gweddill y disgyblion gofnodi'r sgwrs ar bapur neu ar fwrdd gwyn rhyngweithiol! Pob lwc!

News image