| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Rydyn ni'n gallu mynd i'r theatr i weld dramâu byw yn cael eu perfformio.Mae sawl cwmni proffesiynol hefyd yn teithio o Fôn i Fynwy er mwyn perfformio dramâu. Mae rhai'n ymweld ag ysgolion o bryd i'w gilydd ac yn perfformio ar lwyfan y neuadd. Rhestrwch y dramâu yr ydych chi wedi eu gweld un ai mewn theatr neu yn yr ysgol. Trafodwch nhw gyda gweddill y dosbarth! Cyn i ddrama gael ei pherfformio, mae'r dramodydd yn ysgrifennu'r ddrama ar bapur. Darllenwch y sgript ddrama hwn. Sgwrs rhwng dau o ffrindiau sydd yma, sef Wyn a Gareth. Fe allwch weld y sgript hon yn ei chyfanrwydd yn 'Haws Dweud', (Uned 4 'Ffrindiau')(tud.43). ![]() Trafodwch gyda phartner beth fyddech chi'n ei wneud yn sefyllfa Wyn? Fyddech chi'n dweud wrth un o'ch rhieni chi fod eiddo pwysig wedi mynd ar goll? Fyddech chi'n fodlon dweud celwydd? Pam? Trwy ddeialog mae'r stori'n symud yn ei blaen. Mae'r ddeialog yn gallu dangos yr hyn mae'r cymeriadau'n eu gwneud ac yn fwy na dim mae'n dangos y modd maen nhw'n ymateb i'w gilydd. Cynllunio Mae'n bwysig nodi hefyd mai nid penodau sydd mewn drama ond golygfeydd. Rydyn ni'n gallu rhannu ein drama fel hyn: Act 1, Act 2 ac ati. Cofiwch: e.e. Cofiwch osod enwau'r cymeriadau mewn prif lythrennau ar ochr chwith y dudalen. Mae angen dangos enw'r cymeriad yn glir - mewn teip trwm neu gyda llinell o dan yr enw. e.e. Cyfarwyddiadau Disgrifiwch y modd mae'r cymeriadau'n siarad mewn llythrennau italig a'u gosod mewn cromfachau petryal: e.e. Dafydd: O na! [yn grac] Dw i ddim yn mynd i ymarfer y trwmped! Pwrpas y cyfarwyddiadau yw rhoi arweiniad i'r actorion sut i ddweud y geiriau neu cyflwyno'r cefndir neu sôn am rywbeth sy'n digwydd. Tip Tactegol Nodwch gyfarwyddiadau er mwyn dangos ble mae'r cymeriadau ar y llwyfan a beth sy'n digwydd mewn llythrennau italig a chromfachau petryal: e.e. [Dafydd yn brasgamu ar draws y llwyfan gan edrych yn grac] Bydd hyn yn rhoi arweiniad i'r actor a'i helpu i gyfleu'r geiriau. Cofiwch i beidio a defnyddio dyfynodau! Ydych chi'n cofio'r gwahaniaethau nawr?! | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |