| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Mae defnyddio deialog yn ffordd arbennig o gyfleu mwy am y cymeriadau yn y stori. Fel fydd y stori'n mynd rhagddi, fe fydd y cymeriadau'n datblygu. Trwy ddefnyddio deialog, gallwn weld sut fath o gymeriadau ydyn nhw. Ymddangosiad: e.e. "Rwyt ti'n edrych fel bwgan brain!" meddai ei fam gan roi ei grys i mewn i'w drwsus yn daclus. Personoliaeth: e.e. "Dw i wrth fy modd yn marchogaeth ceffylau," atebodd Medi'r athrawes yn hawddgar. Gweithredoedd: e.e. "I fyny'r grisiau 'na reit handi!" gwaeddodd ei dad gan ymestyn ei fys tua chyfeiriad yr ystafell wely. Darllenwch y dyfyniad hwn o 'Pac o straeon Rygbi 2' (tud 8). "Gwych, bechgyn!" bloeddiodd Mr Ifans yr athro chwaraeon, a llamu ar y cae efo'i goesau hirion. Beth mae'r hyn mae Mr Ifans yn ei ddweud yn dangos am ei gymeriad? Rhowch resymau i gefnogi eich safbwyntiau! Rydyn ni wedi sôn eisoes am y pethau pwysig y gallwn ganolbwyntio arnynt pan rydyn ni'n ysgrifennu deialog, sef:
Gadewch i ni sôn mwy amdanynt! Y Llais
Er enghraifft: "Damwain o'dd o. Dw i wir yn sori! Dw i byth yn mynd i 'neud hyn eto, DW I'N ADDO! Plîs, coeliwch fi!" cyfaddefodd a'i lais yn crynu. Y corff
Er enghraifft: "Lle ma' dy arian cinio? Mae'n Ddydd Llun! Lle ma' o? Mi dy waldia i chdi os na cha' i o!" mynnodd y bwli gan sgwario. Yr amgylchfyd
Er enghraifft: "Dyma be' dw i'n alw'n steil! Pwdin enfawr!" dywedodd Wil yn y gwesty crand. Y meddwl
Er enghraifft: "Ooo! 'Na boenus. So i byth yn mynd i ga'l tynnu dant mas 'to. BYTH!" meddyliodd Beth yn dorcalonnus. Cydweithiwch gyda phartner er mwyn ysgrifennu deialog fer yn cynnwys yr elfennau pwysig hyn - y llais, y corff, yr amgylchfyd a'r meddwl. Cofiwch - Mae'n rhaid dechrau llinell newydd pan fo cymeriad newydd yn siarad. Mae'n bwysig defnyddio dyfynodau (" ...") o gwmpas yr hyn mae'r cymeriadau'n ei ddweud. e.e. "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!" meddai Elin Cofiwch - mae angen AGOR y dyfynodau a CHAU y dyfynodau. Mae'n rhaid rhoi priflythyren i ddilyn y dyfynodau agoriadol e.e. "Diolch o galon am yr anrheg penblwydd." ![]() e.e. "Dw i am fynd i chwilio am lyfr gwybodaeth am anifeiliaid anwes," meddai Cai. Berfau Fel arfer, rydyn ni'n defnyddio berf ar ôl yr hyn sy'n cael ei ddweud: e.e. "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!" meddai Sian. Cychwyn llinell newydd Sylwch bod angen llinell newydd bob tro mae rhywun gwahanol yn siarad. Mae hyn yn ei gwneud yn amlwg wedyn pa gymeriad sy'n siarad pryd. Darllenwch y darn hwn: "Wyt ti am fynd yno?" holodd Rhys. "Nac ydw," atebodd Siân. "Pam?" gofynnodd Rhys. "Am fod arna i ofn nos," meddai Siân. "Ofn nos!" chwarddodd Rhys. "Oes," meddai Siân gan grynu. Nid oes rhaid defnyddio berf ac enw'r cymeriad bob tro maen nhw'n siarad - mae hyn yn gallu swnio'n ddiflas. Mae'r awdur yn ailadrodd oherwydd fod y berf ac enw'r cymeriad yn cael eu defnyddio bob tro. O dynnu ambell ferf, mae'n swnio'n fwy naturiol o lawer. Darllenwch yr un darn eto: Wyt ti am fynd yno? holodd Rhys. "Nac ydw," atebodd Sian. "Pam?" "Am fod arna i ofn nos." "Ofn nos!" chwarddodd Rhys. "Oes." Mae'n amlwg pwy sy'n siarad gan fod yr awdur wedi defnyddio eu henwau ar ddechrau'r sgwrs. Nid oes angen ailadrodd enwau'r cymeriadau dro ar ol tro. | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |