| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Defnyddio berfau Mae defnyddio berfau diddorol yn bwysig. Mae defnyddio 'meddai' fel berf yn gallu bod yn ddiflas os ydych yn ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Darllenwch y brawddegau nesaf: "Jiw, jiw fechgyn. A'th y bêl 'na'n uchel tu hwnt!" bloeddiodd Miss Jenkins. Cofiwch ddefnyddio amrywiaeth o ferfau mewn deialog e.e. Adferfau Gallwch ddisgrifio'r ferf gan ddefnyddio adferf ddiddorol. Mae hyn yn disgrifio'r ffordd mae'r person neu'r cymeriad yn dweud yr hyn sydd ganddo i'w ddweud: e.e. bloeddiodd yn groch Sut a beth? Gofynnwch SUT? a BETH? er mwyn disgrifio beth mae'r person neu'r cymeriad yn ei wneud tra'i fod yn siarad a sut mae'n gwneud hynny. Dyma enghreifftiau i chi: e.e. bloeddiodd yn groch SUT/BETH? - gan neidio i fyny ac i lawr. e.e. chwarddodd yn uchel SUT/BETH? - gan wenu o glust i glust. e.e. ebychodd yn anghwrtais SUT/BETH? - gan rythu yn gas. Atalnodi Mae defnyddio'r gofynnod (?) yn bwysig pan mae cymeriad yn gofyn cwestiwn: e.e. "Ble mae fy esgidiau pêl-droed, Mam?" gofynnodd Teifi. Mae defnyddio'r ebychnod (!) yn bwysig hefyd er mwyn dangos syndod neu er mwyn pwysleisio ffaith arbennig: e.e. "Paid â gwneud hynny byth eto! Mae'n beryglus tu hwnt!" bloeddiodd Dad. Gwnewch yn siŵr fod y bobl neu'r cymeriadau sy'n siarad yn ymateb i'w gilydd: e.e. "Dw i eisiau'r loshin 'na nawr," bloeddiodd Dafydd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr. Gwyliwch y darn yma o ddrama y Tŵr. Sylwch ar y ffordd mae'r cymeriadau yn ymateb i'w gilydd. Gallwch ddefnyddio eich deialog i ddangos y berthynas rhwng eich cymeriadau: e.e. "Dw i ddim yn credu bod hyn yn ddigon da!" awgrymodd Rhian yn swrth. Sut allwch chi wella eich deialog? Dyma bump awgrym syml: ![]() | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |