| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Mae deialog yn gwneud storïau yn llawer difyrrach ac yn gadael i ni ddod i adnabod y cymeriadau'n well. Pan rydych chi'n mynd ati i ysgrifennu stori fe ddylech chi geisio cynnwys deialog er mwyn gwneud y stori yn fwy hwyliog i'w darllen. Beth yw pwrpas deialog mewn stori? Gadewch i ni edrych yn fanylach ar hyn. Darllenwch y darn nesaf o'r llyfr Sbinia gan yr awdur Bedwyr Rees (tud.67). Efallai eich bod yn cofio gweld Bedwyr ar y rhaglen deledu Tacteg Cymraeg! ![]() Mae'r lliwiau yn y deialog yn cyfateb i'r pwyntiau pwysig nesaf. Darllenwch y pwyntiau pwysig ac edrychwch ar y darnau o'r deialog sy'n cyfateb o ran lliw. ![]() Mae deialog yn bwysig iawn felly. Cofiwch - pan rydych chi'n creu deialog, mae'n bwysig bod y ddeialog yn:
Cydweithiwch gyda phartner er mwyn ysgrifennu deialog rhwng bachgen o'r ddinas a merch o'r wlad sy'n cyfarfod am y tro cyntaf. Maen nhw'n trafod y cyfleusterau (e.e. canolfannau hamdden, siopau, mynyddoedd i'w dringo ac ati.) Efallai y byddai un cymeriad yn dod o'r De a'r llall yn dod o'r Gogledd! Defnydd iaith Dyma rai enghreifftiau o eiriau tafodieithol: houl, iste, sbia, del, dishgled. Gwyliwch y clipiau fideo yma. Mae un yn dangos cymeriadau o'r de yn sgwrsio a'r llall yn dangos cymeriadau o'r gogledd. P'un yw p'un? Oeddech chi'n medru deall y cymeriadau yn y ddau glip? Beth am i chi wrando ar eich athrawon yn sgwrsio. Ydyn nhw'n defnyddio geiriau neu ymadroddion sy'n wahanol i'ch rhai chi? Cofnodwch nhw ar bapur a thrafodwch y gwahaniaethau! Mathau o iaith Mae iaith hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y sefyllfa. Mae'n siŵr eich bod chi'n siarad yn wahanol iawn gyda'ch ffrindiau i gymharu â'ch sgyrsiau gyda'ch athro/athrawes! Pan mae'r cymeriadau'n siarad yn ein storïau, mae'n bwysig bod y ddeialog yn cael ei ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol neu anffurfiol, ond mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar y sefyllfa! Dyma enghreifftiau: Er Enghraifft: Penderfynwyd anfon y bachgen adref oherwydd salwch.
pan rydyn ni mewn sefyllfa ffurfiol, sef sefyllfa bwysig e.e. mewn cyfarfod. Er enghraifft: Mi ddudodd y prif wrth y bachgen am 'i gwadnu hi adre os oedd o'n teimlo'n giami. mewn sefyllfa llai ffurfiol e.e. wrth siarad â ffrind. Tafodiaith:Er enghraifft: Fe halodd y crwt gartre achos o'dd pen tost 'da fe. dyma'r enw ar y geiriau sy'n perthyn i ardaloedd gwahanol. Bratiaith:Er enghraifft:Desidodd yr Head i ala'r crwt gartre cos o'dd e'n sick. dyma'r enw ar iaith wael sy'n cynnwys geiriau Saesneg a iaith anghywir. Gwyliwch y clip fideo yma o raglen Pobl y Cwm. Pa fath o iaith sy'n cael ei ddefnyddio? Nodwch enghreifftiau ar ddarn o bapur. Gwyliwch y clip fideo yma sy'n dangos deialog ffurfiol ac anffurfiol. Trafodwch y gwahaniaethau rhwng y clipiau. Trafodwch gyda phartner y gwahaniaethau rhwng sefyllfa ffurfiol (e.e. cyfarfod) a sefyllfa anffurfiol (e.e. chwarae gêm gyda ffrind). Pa fath o iaith byddwch chi yn ei ddefnyddio yn y gwahanol sefyllfaoedd? Pam? | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |