Tlodi

Plentyn yn eistedd ar wal

Beth mwy y gellid ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant?

Er fod safonau byw wedi codi'n gyffredinol, mae un ymhob pedwar plentyn yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Mae ymchwil yn awgrymu fod plant tlawd yn fwy tebygol o ddioddef o ran eu hiechyd a'u datblygiad, yn fwy tebygol o gael damwain, ac yn fwy tebygol o gael babi yn eu harddegau. Mae'n broblem ddifrifol ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dweud y byddan nhw'n dileu tlodi plant erbyn 2020. Ond sut mae tlodi yn effeithio ar fywydau pob dydd teuluoedd yng Nghymru?

Bron i ddeng mlynedd yn ôl, bu rhaglen faterion cyfoes BBC Cymru Week In Week Outyn ffilmio teulu yng Nghwm Cynon oedd yn byw ar incwm oedd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ar gyfer rhaglen arbennig a ddarlledwyd nos Iau 26 Mawrth 2009, fe aeth Betsan Powys yn ôl i Berthcelyn i weld sut oedd y teulu erbyn hyn a beth oedd eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o dymor arbennig o raglenni am blentyndod a ddarlledwyd ar BBC Cymru yn ystod mis Mawrth 2009. Gellid gwylio rhannau o'r rhaglen ar ein gwefan Saesneg.


Lles

Tlodi yw'r bygythiad unigol mwyaf i les plant yng Nghymru.

Achub y Plant a Sefydliad Bevan, Feb 2008

Facts and figures

  • 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi nawr o gymharu â 36% yn 1996-97.
  • Dau ymhob pump o blant mewn cartrefi ag incwm-isel yn byw mewn teuluoedd un rhian.
  • Mae plant yn fwy tebygol o lawer nag oedolion i fyw mewn cartref incwm isel.
    Ffynhonnell: Sefydliad Joseph Rowntree

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.