
Ydyn ni'n gwneud digon i hybu lles corfforol a meddyliol ein plant?
Mae pob rhiant am weld eu plentyn yn tyfu i fod yn iach ac yn hapus ond mae rhai tueddiadau yn dod i'r amlwg sy'n destun pryder am les corfforol a meddyliol rhai o'n pobl ifanc. Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog ym mis Ionawr 2009, roedd mwyafrif (71%) y dwy fil o bobl ifanc a holwyd yn hapus ond roedd awgrym hefyd bod nifer o bobl 16-25 oed yn profi iselder, pwysau gwaith ac anhapusrwydd.
Mae lefelau hunan-laddiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc hefyd yn destun pryder. Felly hefyd gor-dewdra, gydag un ymhob pump o blant 15 oed yng Nghymru bellach yn ddifrifol dros bwysau. Mae Cymry yn eu harddegau hefyd yn yfed mwy na'u cyfoedion yng ngweddill Ewrop, ac mae canran y merched ifanc sy'n beichiogi yma hefyd yn uwch. Yn ôl arbenigwyr, mae nifer o'r problemau hyn yn gysylltiedig â thlodi ac yma yng Nghymru, mae un ymhob pedwar plentyn yn byw mewn cartref lle mae'r incwm yn is na'r cyfartaledd.
Cafodd rhai o'r materion hyn eu codi yn ystod tymor arbennig o raglenni a chynnwys arlein am blentyndod heddiw ar BBC Cymru yn ystod mis Mawrth 2009.
Lles
Ffeithiau a ffigurau
- 25% o bobl 16-25 oed yn aml neu wastad yn isel eu hysbryd neu'n dioddef iselder. Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth y Tywysog, 2009
- 40% o blant 15 oed yng Nghymru yn dweud eu bod yn yfed alcohol bob wythnos. Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008
- 14% o blant 11 oed wedi'u bwlio o leia ddwy neu dair gwaith mewn cyfnod o ddau fis. Ffynhonnell: Childline

