Agweddau

Bechgyn ifanc yn sefyll wrth wal

Ydy agweddau tuag at blant yn mynd yn fwy fwy negyddol?

Mae'r 'hwdi' yn rhan o gwpbwrdd dillad nifer o blant yn eu harddegau ond mae hefyd yn cael ei gysylltu gan rai gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Mae gweld criw o lanciau mewn hwdis ar gornel stryd yn ysgogi rhai pobl i groesi'r ffordd - ond ydyn nhw'n fygythiad neu yn lladd amser am nad oes unman arall ganddyn nhw i fynd?

Mewn adroddiad ar y cyd yn 2008, fe rybuddiodd Comisynwyr Plant y Deyrnas Unedig bod agweddau tuag at blant a phobl ifanc yn mynd yn fwy fwy negyddol. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe fynegwyd pryder gan Bwyllgor DU y Cenhedloedd Unedig ar y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn am yr hinsawdd cyffredinol o anoddefgarwch ac agweddau negyddol y cyhoedd tuag at blant a phobl ifanc oedd yn cael eu hamlygu ym Mhrydain.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog hefyd wedi mynegi pryder. Wrth lawnsio ymgyrch ym mis Tachwedd 2008, fe ddywedodd y mudiad bod tair ymhob pump stori am blant yn eu harddegau yn y wasg yn negyddol eu naws - er bod pobl ifanc yn fwy tebygol o ddioddef trosedd yn eu herbyn na bod yn gyfrifol am drosedd.

Cafodd rhai o'r cwestiynau hyn eu codi yn ystod tymor arbennig o raglenni a chynnwys arlein am blentyndod heddiw ar BBC Cymru yn ystod mis Mawrth 2009.


Ffeithiau a ffigurau

  • 72% o bobl yn teimlo'n nerfus, yn ofnus neu dan fygythiad wrth weld pobl ifanc yn gwisgo 'hwdi' ar y stryd. Arolwg 'Truth About Youth' Ymddiriedolaeth y Tywysog, 2008
  • 55% o oedolion o'r farn bod mwy o dyndra rhwng oedolion a phlant heddiw o'i gymharu â phan oedden nhw'n ifanc. Cymdeithas y Plant, Ymchwiliad Plentyndod Da 2009

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.