
Sut mae dysgu gwerthoedd i'n plant yn yr oes faterol sydd ohonni?
Mae trosglwyddo gwerthoedd a gosod ffiniau yn rhan bwysig o fagu plant. Mae'r rhan fwyaf o blant yn dod i ddysgu am werthoedd a moesau gan eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u hathrawon. Ond yn oes y 'seleb', ydy plant yn edrych i gyfeiriadau gwahanol? A sut mae trosglwyddo gwerthoedd craidd mewn cymdeithas lle mae pwyslais cynyddol ar fateroliaeth? Dyma rai o'r cwestiynau gafodd eu codi yn ystod tymor plentyndod BBC Cymru ym mis Mawrth 2009.
I ganfod mwy, fe ofynodd BBC Cymru i'r Sefydliad Materion Cymreig gynnal ymchwil grwp ffocws mewn tair ardal gwahanol yng Nghymru. Roedd plant, rhieni, neiniau a theidiau yn rhan o'r grwpiau ffocws a fu'n trafod ystod eang o bynciau gan gynnwys gwerthodd ac ymddygiad. Roedd nifer o'r oedolion a holwyd o'r farn bod plant heddiw yn dueddol o ddangos llai o barch. "Pan oeddwn i'n fach, roedd athrawon yn cael eu parch a'u trin fel pobl wahanol," meddai un famgu.
Roedd rhieni, neiniau a theidiau hefyd yn teimlo bod plant heddiw yn fwy materyddol a'u bod o dan bwysau i dyfu lan yn rhy gyflym. "Dwi'n meddwl fod plant yn tyfu lan yn rhy gyflym. Maen nhw'n trio bod ar flaen y gad drwy'r amser," meddai un fam. "Os oes gan rywun rhywbeth, mae rhywun arall yn ei chwennych. Dwi'n meddwl eu bod nhw eisiau bod mor aeddfed a phawb arall. Pan oeddwn i'n fach, y duedd oedd dweud 'paid a thyfu lan yn rhy gloi nawr'".
Cyhoeddwyd gwaith ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Mawrth 2009 ac mae rhagor o fanylion i'w cael yn ein tudalennau newyddion.
Gwerthoedd a ffiniau
Ffeithiau a ffigurau
- Ar gyfartaledd, gall plentyn 10 oed arfer enwi 400 o frandiau ac mae'n eu defnyddio fwy fwy i fesur hunan-werth. Cyngor Defnyddwyr, Ed Mayo, 2005.
- Roedd 66% o blith 1,178 o oedolion a holwyd mewn arolwg gan Gfk NOP o'r farn nad oedd gwerthoedd moesol mor gryf â phan oedden nhw'n blant. Ymchwiliad Plentyndod Da: Cymdeithas y Plant, 2009.

