Teulu

Llun o gysgodion teulu

Ydy plant heddiw yn cael y gefnogaeth emosiynol maen nhw ei angen yn y cartref?

Mae strwythur y teulu traddodiadol wedi newid cryn dipyn yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae llai o gyplau yn dewis priodi. Mae 'na fwy o rieni sengl a mwy olys-deuluoedd. Mae mwy yn ysgaru, ac un ymhob pedwar tad yn colli cysylltiad â'u plant ar ôl gwahanu. Gydag oriau gwaith ym Mhrydain ymhlith yr hwyaf yn Ewrop, mae cynnal cydbwysedd rhwng gofynion gwaith a'r cartref yn gallu bod yn ben tost i nifer o rieni.

I ganfod mwy am fywyd teuluol yng Nghymru heddiw, fe gomisynodd BBC Cymru waith ymchwil gan y Sefydliad Materion Cymreig. Buon nhw'n siarad ar ein rhan gyda thri grwp ffocws yn cynnwys plant, rhieni, a neiniau a theidiau mewn tair ardal gwahanol. Un canfyddiad cynnar oedd bod rhieni heddiw yn teimlo bod eu perthynas gyda'u plant yn well na chenedlaethau blaenorol. Roedd rhieni hefyd yn poeni am yr amser roedden nhw'n gallu treulio gyda'u plant ym mhrysurdeb bywyd heddiw.

Mae rhagor o fanylion am y gwaith ymchwil i'w cael yn ein tudalennau newyddion.

 

Ydy'r cartref yn cynnig cynhaliaeth digonol i blant heddiw?

  • Faint o amser mae ydyn ni'n treulio gyda'n gilydd fel teuluoedd?
  • Faint o amser ydyn ni'n treulio yn siarad ac yn trafod gyda'n plant?
  • Pa mor aml ydyn ni'n mynd allan am dro fel teulu neu ryw weithgaredd hamdden arall?
  • Sut mae cadw cydbwysedd rhwng gofynion gwaith a gofynion y cartref?

Dyma rai o'r cwestiynau fydd BBC Cymru yn eu codi fel rhan o drafodaeth genedlaethol am blentyndod yn ystod mis Mawrth 2009. Os oes ganddoch chi farn, brofiad neu gyngor i'w rannu, cysylltwch â ni.


Ffeithiau a ffigurau

  • 96% o oedolion yn dweud fod bywyd teuluol yn bwysig iawn iddyn nhw. Arolwg BBC/ICM Hydref 2007.
  • 72% o oedolion o'r farn bod bywyd teuluol yn llai llwyddiannus heddiw nag mewn cenhedlaethau blaenorol. BBC/ICM Poll October 2007.
  • 56% o famau â phlant dan 5 oed yn gweithio. Arolwg y Geithlu 2005.
  • 60% o famgus a dadcus yn gofalu am wyrion dan 15 yn ystod y dydd. Llywodraeth Cynulliad Cymru: Adroddiad ar rol y famgu a'r tadcu.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.