
Ydy plant heddiw yn cael digon o ryddid a chyfleoedd i chwarae?
Hanner can mlynedd yn ôl, byddai'r rhan fwyaf o rieni wedi bod yn hapus i adael i'w plant chwarae tu allan. Ond mae hynny wedi newid mae'n debyg yn sgil y cynnydd yn nifer y cerbydau ar ein ffyrdd ac phryderon am gipio plant.
Erbyn heddiw, mae yna fwy o bethau i ddifyrru ieuenctid y tu mewn i'r tŷ hefyd a theclynnau megis y teledu, y cyfrifiadur, gemau fideo a ffonau symudol yn gallu cynnig cyfleoedd newydd i ryngweithio a darganfod. Ond er lles eu hiechyd a'u hannibynniaeth, onid oes angen adfer rhywfaint o'r rhyddid i chwarae oedd yn gymaint ran o blentyndod gynt?
Daeth pryderon am ryddid plant i grwydro a chwarae'n annibynnol i'r amlwg yn ystod ymchwil grwp ffocws a wnaed gan y Sefydliad Materion Cymreig fel rhan o dymor plentyndod BBC Cymru ym mis Mawrth 2009. Roedd rhieni, neiniau a teidiau o'r farn eu bod nhw wedi cael tipyn mwy o gyfle i chwarae heb oruchwyliaeth o'i gymharu â phlant heddiw. Roedd nifer yn teimlo bod ansawdd plentynod heddiw wedi dirywio o'r herwydd. Mae manylion plleach i'w cael yn ein tudalennau newyddion.
Dweud eich dweud
Ffeithiau a ffigurau
- 82% o blant 7-10 oed yng Nghymru â theledu yn eu hystafell wely.
- 71% o blant 7-10 oed yng Nghymru yn dweud bod yn well ganddyn chwarae tu allan.
- 60% blant 7-10 oed yng Nghymru yn gwylio dros 2 awr o deledu pob dydd.

