Riordan

Riordan (Jazz a Chlasurol)



Jazz a Chlasurol yw hoff gerddoriaeth Riordan. Yn ei ystafell cewch chi ddysgu sut i ddefnyddio'r dull 'galw ac ateb' a darganfod mwy am ddyfeisiau melodig fel gwrthdroad, olrediad ac ailadroddiad.

Ewch i ystafell Riordan er mwyn dysgu mwy am gerddoriaeth glasurol a jazz

Cerddoriaeth Riordan

'Dy Lygaid Glas' a 'Daeth y Wawr'
Baledau sy'n mynd a bryd Riordan. Meddyliwch am y caneuon rydych chi'n eu hoffi. Ydy'r teitlau'n dweud rhywbeth wrthoch chi amdanyn nhw? Lledwch eich gorwelion ac fe welwch chi pa mor anhygoel o amrywiol gall cerddoriaeth fod.

Fideos Riordan

Cyfansoddi alawon gwych
Mae angen alaw hudol ar bob cân wych. Mae Riordan yn dangos sut i fynd ati gan ddefnyddio'r dull 'galw ac ateb'. Gwrandewch ar wahanol alawon. Meddyliwch pam rydych chi'n eu hoffi - neu ddim yn eu hoffi. Cyfansoddwch eich alaw eich hun drwy newid yr ateb i alwad. Yna ewch ati i greu eich atebion eich hun. Dyna beth yw cyfansoddi!

Beth i'w wneud pan mewn trafferth
Gwyliwch Riordan ac Aron yn gweithio gyda'i gilydd ar alawon 'galw ac ateb'. Maen nhw'n egluro sut mae recordio tra'n canu'n fyrfyfyr yn eu helpu nhw.

Fy rysáit cudd ar gyfer alaw hudolus
Mae Riordan yn siarad am ddyfeisiau melodig. Mae'n cyflwyno gwrthdroad, olrediad ac ailadroddiad. Dyma ddyfeisiau difyr ar gyfer creu caneuon hudol.

Gweithgareddau Creu Cân

Creu alaw cwestiwn ac ateb
Newidwch yr alaw i adlewyrchu'r galw ac ateb a newidwch y nodau i greu ateb newydd. Bydd chwarae'r gêm hon yn eich helpu chi i ddefnyddio galw ac ateb wrth i chi gyfansoddi.

Troelli'ch alaw - lefel 1
Gwrandewch ar gân Riordan. Yna nodwch lle mae'r bylchau yn yr alaw. Defnyddiwch ddyfeisiau melodig fel gwrthdroad, olrediad ac ailadroddiad i gwblhau'r alaw. Mae'n swynol o syml!

Troelli'ch alaw - lefel 2
Eich man cychwyn ydy curiad trac cyfeiliant 'Daeth y Wawr' gan Riordan. Ychwanegwch eich alaw eich hun. Cofiwch ychwanegu gwrthdroadau ac olrediadau.

Gemau

Parau'n cydweddu
Dyma gyfle i ddysgu mwy am driciau cyfansoddi defnyddiol. Allwch chi adnabod y gwrthdroadau a'r olrediadau yn alaw Riordan?



Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.