Mae Carmen yn ymddiddori mewn cerddoriaeth drefol. Yn ei hystafell hi cewch chi ddysgu am sut i ganu'n fyrfyfyr yn defnyddio dull galw ac ateb, graddfa bentatonig a nodau diogel.
Ewch i ystafell Carmen er mwyn dysgu mwy am gerddoriaeth drefol
Cerddoriaeth Carmen
'Tro Amser Nôl' a 'Dw i'n Deud 'tha ti - Na!'
Cymharwch draciau Carmen gyda chaneuon eraill rydych chi wedi eu clywed. Meddyliwch am y gwahaniaethau mewn arddull a sain.
Fideos Carmen
Creu
Mae Carmen yn siarad am greu'n fyrfyfyr. Mae hi'n egluro sut mae hi a Maeve yn defnyddio 'galw ac ateb' i gyfansoddi caneuon. Mae hi'n rhoi syniadau sut i greu'n fyrfyfyr ac yn esbonio sut mae creu'n fyrfyfyr yn gallu helpu wrth gyfansoddi.
Cadwch bethau'n syml
Dysgwch sut i greu'n fyrfyfyr gan ddefnyddio graddfa pum nodyn neu raddfa bentatonig. I ddechrau, cadwch rythm syml. Rhowch gynnig ar berfformio'n fyrfyfyr. Graddfeydd ydy'r elfennau sylfaenol ar gyfer creu'n fyrfyfyr, felly maen nhw'n werth gwybod amdanyn nhw.
Nodau diogel
Cyngor ar sut i fod yn ddiogel wrth ganu. Mae Carmen yn egluro bod tri nodyn yn gwneud cord. Gall unrhyw un o'r tri nodyn gael eu defnyddio dros y cord yma. Dyma'r 'nodau diogel'. Yn gerddorol, mae'n beth da gwybod sut i greu'n fyrfyfyr gyda dilyniannau cordiau a nodau diogel.
Mwy o nodau diogel
Mae Carmen yn rhoi gwers fer ar ddefnyddio nodau diogel a chordiau wrth greu'n fyrfyfyr. Mae hi'n dangos sut i berfformio'n well wrth greu'n fyrfyfyr dros ddilyniannau cordiau, gyda graddfeydd nodau diogel a phatrymau.