Aron (Pop)


Cerddoriaeth bop sy'n mynd â bryd Aron. Yn ei ystafell cewch chi ddysgu sut i ddefnyddio triciau ac ystrydebau cerddorol, dysgu am ddilyniannau cordiau ac am y cordiau sy'n cael eu defnyddio yn y rhan fwyaf o ganeuon pop.

Ewch i ystafell Aron er mwyn dysgu mwy am gerddoriaeth bop

Cerddoriaeth Aron

'Petawn i'n Rhydd' a 'Daeth Tro ar Fyd'
Gwrandewch ar ganeuon Aron. Sut maen nhw'n cymharu gyda'r genres rydych chi'n gyfarwydd â nhw?

Fideos Aron

Triciau dirgel cyfansoddi caneuon
Mae cyfansoddwyr weithiau'n defnyddio triciau neu 'ystrydebau cerddorol'. Mae Aron yn egluro sut mae'n bosib creu naws ac amgylchedd mewn cân trwy ddefnyddio ystrydebau. Mae'n ddefnyddiol gwybod am wahanol fathau o gerddoriaeth a thriciau cerddorol.

Cordiau cŵl
Mae Aron yn egluro sut mae'r un strwythur cordiau (I, IV a V) i'w clywed mewn pob math o ganeuon. Mae'r dilyniannau cordiau cyffredin yma'n sail i lawer o ganeuon pop. Nhw ydy'r cordiau cwl.

Mwy o gordiau cŵl
Mae Aron yn egluro bod llawer o ganeuon yn defnyddio'r un strwythur cordiau. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o ganeuon ond yn defnyddio tua tri chord, sef cordiau I, IV a V. Oeddech chi'n sylweddoli bod llawer o ganeuon adnabyddus yn defnyddio'r cordiau yma?

Gweithgareddau Creu Cân

Creu cân yn defnyddio cordiau - lefel 1
Llenwch y trac drwy ychwanegu dilyniannau cordiau sy'n gweddu i'r gân. Dewiswch glipiau o'r storfa. Fyddwch chi fawr o dro'n teimlo'n gartrefol gyda dilyniannau cordiau cyffredin sy'n cael eu defnyddio mewn llawer o steiliau o gerddoriaeth byd.

Creu cân yn defnyddio cordiau - lefel 2
Defnyddiwch y teclyn Creu Cân i gwblhau'r trac. Ychwanegwch ddilyniannau cordiau o'r storfa glipiau. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddod i adnabod yr ystod o gordiau mae cerddorion yn eu defnyddio, yn ogystal a'r effaith mae cordiau'n eu cael ar ganeuon.

Gemau

Nodwch y tric cerddorol!
Parwch glipiau cerddorol gyda'r ystrydebau cerddorol. Dyma gyfle i chi ddod yn arbenigwr ar adnabod a dadansoddi pob math o ystrydebau cerddorol mewn ystod o steiliau gwahanol.

Nodwch y cordiau!
Nawr, ewch ati i ddarganfod pa mor dda ydych chi am adnabod cordiau cwl. Parwch enghreifftiau o ddilyniannau cordiau gyda chaneuon sy'n defnyddio'r un dilyniannau.



Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.