Ydych chi eisiau dysgu mwy am gerddoriaeth? Coridor 5 ydy'r lle i ddod! Ymunwch gyda chriw yr ysgol gerdd ac ewch ati i hogi eich sgiliau cerddorol. Cewch gyfle i wrando ar bob math o gerddoriaeth a rhoi cynnig ar gyfansoddi eich cerddoriaeth eich hun gan gynnwys pop, roc, clasurol, jazz, trefol a dawns.
Adnodd cerddoriaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 ydy Coridor 5. Mae'r gemau a'r gweithgareddau rhyngweithiol wedi'u seilio ar bump myfyriwr mewn ysgol gerdd. Ac mae yna athro llais go anarferol hefyd wrth law i gynnig pytiau o gyngor. Mae pob cymeriad yn cyflwyno genre cerddorol a nodau addysg gwahanol.
- Carmen: Trefol (canu'n fyrfyfyr)
- Riordan: Jazz a Chlasurol (dyfeisiau melodig ac amrywiadau)
- Maeve: Dawns (cyfansoddi i frîff)
- Aron: Pop (cordiau ac ystrydebau)
- Pete: Roc (strwythur cân a bachau a riffiau)
- Rufus: Athro Llais
Cliciwch ar y gwrthrychau yn yr ystafelloedd er mwyn mynd at y gweithgareddau. Cliciwch ar y gweithgaredd nesaf at y saeth i ddilyn y llwybr dysgu sy'n cael ei argymell.
Mae'r gweithgareddau canlynol ar gael ym mhob ystafell:
Hoff Draciau
Mae pob cymeriad wedi dewis pump o draciau gan eu hoff artistiaid. Gallwch chi wrando ar y clipiau a chlywed y cymeriadau'n trafod eu dewisiadau.
Banc Geiriau
Mae yna fanc geiriau ym mhob ystafell sy'n rhestru ystyr termau cerddorol.
Pwy ydy...?
Dyma gyfle i ddod i adnabod y myfyrwyr yn well.
Creu Cân
Defnyddiwch y teclyn Creu Cân yn ystafelloedd Riordan, Maeve, Aron a Pete i gyfansoddi ac ailgymysgu caneuon. Cliciwch ar y botwm 'Dangoswch Sut Mae Gwneud' i weld sut mae cwblhau'r dasg. Mae'r botymau 'Chwarae', 'Yn ôl yn Gyflym' ac 'Ymlaen yn Gyflym' yn ddefnyddiol wrth i chi gyfansoddi. Gallwch chi ailwrando ar eich cyfansoddiadau a'u newid os ydych chi eisiau.
Cymorth Clyweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
- arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Bydd defnyddwyr yn gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.