Maeve (Dawns)

Maeve (Dawns)



Cerddoriaeth ddawns yw arbenigedd Maeve. Yn ei hystafell hi cewch chi ddysgu am syniadau sy'n gallu ysbrydoli caneuon, sut i ailgymysgu cerddoriaeth a sut i gyfansoddi i frîff.

Ewch i ystafell Maeve er mwyn dysgu mwy am gerddoriaeth ddawns

Cerddoriaeth Maeve

'Tisie Byw Mewn Parti 'Da Fi?' a 'Dal i Fyw a Bod'
Dyma gyfle i ddysgu mwy am fathau gwahanol o gerddoriaeth. Cymharwch ganeuon Maeve gyda'i gilydd - a gyda rhai eraill rydych chi wedi eu clywed.

Fideos Maeve

Dyma gasgliad o fideos sy'n edrych ar sut mae emosiynau a theimladau'n sbarduno'r broses o greu.

Cyfeillgarwch
Mae caneuon yn cael eu hysbrydoli gan bob math o syniadau ee cyfeillgarwch. Tybed sawl cân sydd wedi ei hysbrydoli gan gyfeillgarwch? Ai stori sy'n sbarduno pob cân dda?

Harddwch
Syniad arall am gân: hunanbarch neu brydferthwch rhywun arall efallai. Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am sut gall prydferthwch ysbrydoli cerddoriaeth.

Y Ddaear
Rhythm bywyd efallai? Mae'r fideo yma'n dangos pa mor aml mae cerddoriaeth yn cael ei hysbrydoli gan y byd o'n cwmpas.

Straeon i godi ofn
Oes ofn canu allan o diwn arnoch chi? Mae 'na bethau gwaeth. Bydd gwylio'r fideo yma'n gwneud i chi feddwl sut mae ofn yn gallu'ch ysbrydoli chi.

Straeon am y teulu
Mae'r bobl rydyn ni'n eu caru ac sy'n bwysig i ni yn gallu'n hysbrydoli ni. Mae'r fideo yma'n dangos sut mae digwyddiadau teuluol yn gallu dylanwadu ar ganeuon.

Straeon trist
Mae 'na gymaint o ganeuon trist. Pam? Falle gall y fideo yma gynnig atebion. Pam bod caneuon gwych mor aml yn adrodd straeon trist?

Cymysgu'r cyfan
Mae'r fideo yma'n cynnwys nifer o glipiau gyda fersiynau gwahanol o'r un gân. Mae'n sôn am gyfansoddi mewn gwahanol lefydd ac ar wahanol amseroedd. Dysgwch sut mae cerddorion yn cymysgu gwahanol drefniadau i greu'r perfformiad maen nhw ei eisiau.

Gweithgareddau Creu Cân

Creu cân i gyd-fynd â llun
Mae llun yn gallu ysbrydoli cân. Ewch ati i greu eich clawr CD eich hun. Yna, defnyddiwch y clawr CD fel sbardun gweledol yn Creu Cân, ac yna trowch y syniad i mewn i gân.

Creu alaw trwy newid offerynnau
Ailgymysgwch cân Maeve 'Dal i Fyw a Bod' mewn steiliau gwahanol. Rhowch gynnig ar Clasurol, Jazz, Trip Hop a Roc. Gwrandewch ar sut mae trefniadau offerynnol gwahanol yn effeithio ar sain yr alaw. Dyma gyflwyniad i drefnu, defnyddio technoleg gerddorol a chyfansoddi i frîff.

Creu alaw a churo'r cloc!
Prawf amser yw hwn. Cyfansoddwch gân - ond cadwch lygad ar y cloc a pheidiwch â chrwydro o'r brîff. Yn aml mae'n rhaid i gyfansoddwyr gadw at frîff a gorffen yn brydlon. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gynllunio a dilyn canllawiau wrth gyfansoddi.



Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.