Roc yw hoff genre Pete. Yn ei ystafell cewch chi ddysgu am strwythur caneuon, sut i ailgymysgu cerddoriaeth a sut i adnabod bachau a riffiau sy'n rhan mor bwysig o ganeuon poblogaidd.
Ewch i ystafell Pete er mwyn dysgu mwy am gerddoriaeth roc
Cerddoriaeth Pete
'Beth a Ddaw' a 'Bôrd'
Dewch draw i'r stiwdio recordio i ddysgu mwy am ganu mewn arddulliau gwahanol.
Fideos Pete
Adeiladu cân
Mae Pete yn egluro sut mae'n mynd ati i ysgrifennu caneuon. Gwyliwch y fideo er mwyn dysgu am wahanol strwythurau. Mae Pete yn siarad am sut mae'n strwythuro cân. Fe ddysgwch chi dermau cerddorol defnyddiol fel 'deuaidd' a 'triaidd' i ddisgrifio strwythur.
Fy hoff fachau a riffiau
Yn aml, bachau a riffiau ydy'r pethau mwyaf cofiadwy mewn caneuon poblogaidd. Pam bod rhai caneuon yn aros yn y cof ac eraill yn llai cofiadwy?
Gweithgareddau Creu Cân
Creu cân gan ddefnyddio adrannau
Mae'n amser i hogi eich sgiliau cerddorol! Trefnwch y blociau strwythurol er mwyn creu cân. Dewiswch glipiau o'r storfa gan gynnwys pontydd, rhagarweiniadau a chytganau. Dyma ymarfer gwych ar gyfer cyw gyfansoddwyr!
Creu alaw gofiadwy - lefel 1
Ewch i'r storfa a dewis y clipiau sy'n fachau a riffiau. Yna, gosodwch nhw yn y llefydd gorau ar y trac i ailgymysgu 'Beth a Ddaw'. Dewch i adnabod y bachau a'r riffiau yn y gân hon ac ewch ymlaen wedyn i'w defnyddio yn y caneuon rydych chi'n eu cyfansoddi.
Creu alaw gofiadwy - lefel 2
Defnyddiwch y teclyn Creu Cân i greu riff. Ychwanegwch eich riff fel trac cefndir wrth i chi ailgymysgu 'Bôrd'. Rhowch gynnig ar newid nodau unigol er mwyn gwella'r gân. Gallwch chi roi eich stamp eich hun ar un o'r caneuon sy'n bodoli'n barod trwy gyfansoddi bachau a riffiau o'r newydd.
Gemau
Trwsio'r gân
Mae'r gân wedi ei chymysgu. Cyfan sydd angen ei wneud yw rhoi trefn ar y strwythur (pennill, rhagarweiniad a chytgan). Rhowch y gân yn ôl at ei gilydd a'i chwarae! Mae'r gêm yma'n dangos sut i strwythuro cân gan ddefnyddio rhannau gwahanol. Yr union beth ar gyfer adolygu, os ydych chi wedi gwneud hwn o'r blaen.
Methu ag anghofio
Dyma ddetholiad o glipiau o gerddoriaeth fasnachol. Nodwch y bachau a'r riffiau. Byddwch chi fawr o dro yn gweld pam bod rhai alawon yn aros yn y cof.