BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

.Cylch
Teulu Mclean MerthyrTeulu o Ferthyr ar y teledu
Rhagfyr 2004
Ers mis Mai eleni, mae pum cartref yng Nghymru yn gwneud eu gora glas i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd trwy gymryd rhan mewn prosiect teledu gwyrdd a gwreiddiol.

Mae camerâu cwmni Al Fresco wrthi'n ffilmio tri theulu, un pâr wedi ymddeol a chriw o bedwar ffrind, yn eu hymdrechion i droi'n wyrdd ar gyfer y gyfres Ffordd Newydd o Fyw, sy'n dechrau nos Fawrth, 7 Rhagfyr am 9.00pm ar S4C.

Nod pob cartref yw lleihau'r lefelau carbon diocsid a gynhyrchir ganddynt ac arbed arian yr un pryd. I gyflawni hyn, maen nhw'n cael cymorth gan yr arbenigwr amgylcheddol, Peredur ap Tomos o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth a'r arbenigwr ariannol Mererid Archer o KTS Owens Thomas.

Eu hanogaeth - os oes angen un ar bobl sydd i gyd yn poeni am ddyfodol y blaned - yw y bydd y cartref sy'n lleihau eu mesur carbon fwyaf erbyn diwedd y gyfres yn ennill gwyliau wedi'u teilwra'n arbennig ar eu cyfer. Meddai'r cynhyrchydd Iwan England, "Ro'n i am greu cyfres deledu a oedd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol, ymarferol am fod yn wyrdd a chynnig adloniant hefyd. Y nod yw lleihau'r difrod i'r amgylchedd ond ry'n ni'n dod i nabod ycymeriadau hefyd yn Ffordd Newydd o Fyw. Byddwn yn chwerthin gyda nhw wrth iddynt ymgymryd â phrosiectau DIY gwahanol.

"Neges y gyfres yw bod pawb yn gallu cymrydcamau bach syml i arbed ynni a lleihau difrod i'r amgylchedd a bod tipyn bach gan lawer yn gallu gwneud gwahaniaeth."

Fe ddewiswyd amrywiaeth eang o bobl o bob oed a chefndir a chartrefi gwahanol iawn - y dinesig, y trefol, y gwledig, a'r arfordirol - er mwyn cynnig croestoriad o boblogaeth Cymru.

Mae Lis McLean, ei gŵr Huw a'u dwy ferch Delyth 13 a Bethan, 7 yn byw mewn tŷ teras ym Merthyr Tudful. A fyddant yn gallu troi'n wyrdd ac arbed arian trwy brynu mewn siopau lleol?

Mae pob pennod o'r gyfres, a noddir gan Gynllun Craff am Wastraff _ Waste Awareness Wales, yn canolbwyntio ar themâu gwahanol - o ailgylchu i insiwleiddio, o drafnidiaeth i fwyta'n wyrdd ac arbed ynni.

Fe lansir y wefan werdd fwyaf cynhwysfawr erioed yn yr iaith Gymraeg - www.fforddnewydd.co.uk - i gyd-fynd â'r gyfres.

FFORDD NEWYDD O FYW, Nos Fawrth, 9.00pm ar S4C.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy