BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

.Cylch
Bethan Jenkins a'r plant0 Ferthyr i Frasil
Mai 2004
"My name is Bethan" meddwn i wrth daflu'r bêl sbwng at ferch tua phedair ar ddeg oed.


"My name is AnnaPaula" meddai hithau a thaflu'r bel yn ôl ata i. "I live in Merthyr." "I live in Aquiraz" meddai hi.

Roeddwn i mewn tref wledig yng ngogledd-ddwyrain Brasil yn dysgu Saesneg i blant tlawd. Bob bore a phrynhawn roeddwn i'n cerdded tua milltir a hanner ar hyd ffordd garegog, dywodlyd i gapel lle roedd tua 60 o blant rhwng tair a dwy ar bymtheg oed yn dod am wersi.

Mae'r plant yma'n rhan o brosiect o'r enw 'Llaw Cyfeillgar' (Mao Amiga), un o brosiectau YWAM (Youth With A Mission). Ar gyrion Aquiraz roedd 'favela', slym anferth wedi tyfu ac roedd trigolion y dre'n poeni am effaith yr holl gyffuriau, y meddwi a'r problemau cymdeithasol oedd yno ar eu tref. Dair blynedd yn ôl, am fod pobl Aquiraz yn cwyno am y teuluoedd problemus hyn, cododd y cyngor dai bach, bach iddyn nhw. Gwelodd YWAM gyfle i helpu'r teuluoedd yma, 620 ohonyn nhw yn ysbrydol, yn addysgiadol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.

Er mwyn bod yn rhan o'r prosiect mae'n rhaid i'r plant fynd i'r ysgol leol yn rheolaidd, fod yn lân ac ymddwyn yn dda. Byddai ein plant ni'n falch o glywed mai mynd i'r ysgol leol yn y bore neu'r prynhawn fyddai plant Aquiraz! Mae safon yr addysg yn isel iawn fodd bynnag a roedd y plant yn falch iawn o'r cyfle ddod aton ni i ddysgu.

Maen nhw'n cael gwersi Portiwgaleg, Saesneg, chwaraeon, cyfrifiaduron (pan mae cyfrifiaduron ar gael) cerddoriaeth, crefft a mathemateg. Maen nhw hefyd yn cael hyfforddiant ynglŷn â maeth a hylendid. Weithiau byddan nhw'n mynd i nofio ac yn mynd ar gwrs preswyl os oes arian.

Mae'r prosiect yn dibynnu'n llwyr ar roddion. Dyw'r gweithwyr ddim yn cael eu talu o gwbl. Pan fydd arian mae'r plant yn cael ffrwythau neu weithiau gawl. Wedi'r cyfan sut allwch chi ddysgu dim ar stumog wag? Maen nhw'n gwybod yn iawn mai Duw sy'n rhoi popeth iddyn nhw, o'r athrawon i'r dillad neu'r bwyd maen nhw'n ei gael. Ar ddechrau pob gwers bydden nhw'n gweddïo ac yn diolch i Dduw am y rhain. Roedd clywed y gweddïau bach didwyll yma'n fraint.

Prosiect cymunedol yw 'Mao Amiga' ac un noson es i gyda Luzamira, un o bump o genhadon y prosiect i ymweld â rhai o'r teuluoedd. Concrit moel oedd y llawr a'r waliau yn llawer o'r tai, a phlastig gwyn oedd y cadeiriau (fel ein cadeiriau gardd ni). Roedd teledu ar y wal ym mhob tŷ^ - does dim rhaid talu am drwydded dim ond am y teledu ei hun. Roedd lolfa fach, cegin, ystafell ymolchi ac ystafell wely ym mhob tŷ^ ac mae hamogau'n boblogaidd yma am ei bod yn dwym iawn yn y nos ar brydiau. Os oes gŵr o gwmpas a hwnnw'n gweithio, yn bysgotwr efallai, byddai papur wal ar y wal efallai, matiau ar y llawr a chelfi o goed yn y cartref.

Os oedd lawer o'r cartrefi'n foel roedd y croeso'n gynnes iawn. Roedd y teuluoedd yn falch o'r cyfle i siarad am eu problemau gyda Luzamira ac yn fodlon iawn iddi hi weddïo gyda nhw.

Roedd hi'n fraint cael gweithio gyda'r gymuned hon am dair wythnos . Sylweddolais gyn lleied o bethau sy wir eu hangen arnon ni. Ydy. mae'n 'bom dia' - mae'n ddydd da a 'Como vai voce?' - Sut wyt ti? Yn llawer mwy cyfoethog ar ôl dod i 'nabod rhai o bobl dlawd Brasil.

Bethan Jenkins


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy