Roedd hi'n brofiad gwych i ni ac yn enwedig i Delyth a Bethan. Dysgon ni gyd llawer am yr amgylchedd a hefyd am fod o flaen camerâu!Uchafbwynt y digwyddiadau i gyd i mi oedd cael cyfle i ddefnyddio beic trydan - isafbwynt y gyfres - heb os nac oni bai - oedd y cywilydd oedd arnai am beidio dilyn cymorth Mererid ar sut i ofalu am ein dyledion. Roedd hynny jest yn mynd yn rhy bell i mi!
Cawson ni gyd llawer iawn mas o newid yr ardd, newid y ffordd 'yn ni'n bwyta, a llawer mwy.
Fel y gwyddoch ddaeth ein teulu'n ail mas o 5 grŵp o bobl. Catrin a Wes o Lanfairfechan enillodd wrth gwrs. Mae rhaid i mi ddweud maen nhw'n bobl hyfryd er roeddwn i'n teimlo'n 'gutted' am beidio ennill wobr o wyliau mawr yn Tuscany!
Mwynheon ni gyd gwrdd â'n gilydd yn y gyfres olaf - cawson ni gyfle i gymdeithasu gyda'r nos, a dwi'n hollol siŵr fyddwn ni'n cwrdd eto rhywbryd - i ddal lan ar pa mor ffantastig oedd gwyliau Catrin a Wes efallai!
Gobeithio cafodd rhai ohonoch ychydig o 'dips' ar sut i fyw mewn 'ffordd newydd' - 'yn ni gyd yn hollol ymwybodol erbyn hyn pa mor bwysig yw byw bywyd gwyrdd.
Dyma rai o'r pwyntiau syml a gododd yn ystod y gyfres - beth 'ych chi'n gallu ei wneud i wneud eich rhan?!
Lleihau Gwastraff
Ail Gylchu, Ail Ddefnyddio, Compostio
Osgoi defnyddio bagiau plastig.
Gwrthod post/facsus jync
Inswleiddio
Gosod deunydd o wlân defaid yn yr atig
Llenwi'r gofod rhwng waliau'r tŷ
Gosod tâp arbennig ar ddrysau'r tŷ
Gosod ffilm blasting arbennig ar ffenestri'r tŷ
Gosod carpedi/matiau ar y lloriau
Llenwi gofod rhwng byrddau llawr
Trafnidiaeth
Lleihau defnydd o'r car
Gwneud defnydd o drafnidiaeth cyhoeddus
Cerdded/Seiclo
Ail feddwl am deithio tramor
Dŵr ac Ynni
Arbedwch ddŵr ble bynnag y gallwch wrth gael cawod yn lle bath; rhannu bath; gosod 'hippo' yn eich toiled; defnyddio casglwr dŵr yn yr ardd; defnyddio dŵr golchi llestri i ddyfrio'r ardd
Arbedwch ynni trwy inswleiddio
Gwisgwch siwmper ychwanegol!
Newid cyflenwr trydan i gyflenwr gwyrdd
Bwyd
Tyfu llysiau, cadw ieir
Bwyta bwyd organig
Bwyta bwyd lleol neu o leia o Brydain
Paratoi bwydydd o gynnyrch crai yn hytrach na phrynu bwydydd parod
Siopa
Osgoi prynu pethau gyda llawer o becynni
Prynwch mor lleol ag y gallwch
Osgoi nwyddau sydd angen batris
Prynwch deunydd golchi/ymolchi gyfeillgar
Prynwch nwyddau sydd yn para
Ffeithiau
Mae angen tua 15 gwaith mwy o egni i greu bwyd wedi ei brosesu na bwyd heb ei brosesu (yn cynnwys y pacennu)
Yn ystod 2001 mewnforiwyd 64 miliwn litre o laeth - er i ni allforio 414 miliwn litr o Iaeth o' fewn' yr un cyfnod
Yn ystod y degawd presennol fe fydd defnydd ceir ym Mhrydain yn cynyddu 22%
Mewn tŷ cyffredin mae 35% o wres yn cael ei golli trwy'r waliau, 25% trwy'r to, 15% trwy'r ffenestri a 10% trwy'r llawr.
Lis McLean