BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

.Cylch
DarllenO Fesen Fechan, Tyf y Dderwen Fawr
Haf 2004
Gwraig ganol-oed o Gaerfyrddin ydy Rhian Evans. Hi oedd ein gwestai arbennig ni yng nghyfarfod Mis Chwefror o Merched y Wawr.

Gwraig dawel a diymhongar iawn ydy Rhian ond gwraig sydd wedi dangos dycnwch a dyfal-barhad anghyffredin yn ystod ei hoes. Mae wedi teithio'r byd yn eang hefyd. Does dim byd yn anarferol iawn yn hyn, y dyddiau yma, fe'ch clywaf yn dweud. Wel nac oes, rwy'n cytuno. Hyd nes i chi ddeall bod Rhian Evans yn hollol ddall.

Mae'n debyg mai athrawon yn yr ysgol gynradd sylwodd yn gyntaf nad oedd golwg Rhian cystal â golwg y disgyblion eraill yn y dosbarth - felly gosodwyd hi i eistedd ym mlaen y stafell ddosbarth fel ei bod yn gallu gweld y bwrdd du yn well!

Dechreuodd wisgo sbectolau. Pan oedd hi yn ei harddegau, sylweddolodd Rhian ei bod yn taro i mewn i bethau a phobl yn aml ac felly bod yn rhaid bod ei golwg yn dirywio. Ar ôl gorffen ysgol roedd ei bryd ar fynd i'r coleg i hyfforddi i fod yn athrawes. Ond gwrthodwyd ei chais gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin ar sail feddygol. Doedd ei golwg hi ddim digon da.

Nid merch i roi'r ffidil yn y to oedd Rhian, felly ceisiodd am le yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. (Does dim gofyn am brawf meddygol i fynd i goleg prifysgol!!) Fe'i derbyniwyd. Astudiodd Gymraeg a Cherddoriaeth a graddio ar ôl tair blynedd yn y Gymraeg. (Mae'n debyg iddi ffeindio'r cwrs yn anodd iawn erbyn y diwedd, gan ei bod erbyn hynny yn cael trafferth fawr i ddarllen print. Cwynodd hi ddim am hyn wrth neb yn y coleg.

Arferai fynd adref dros y penwythnosau a'r gwyliau gyda tomenni o lyfrau a phapurau i'w darllen ac wedyn byddai ei mam neu ei chwaer yn eistedd i lawr gyda hi ac yn eu darllen iddi.

Wedi graddio roedd rhaid dod o hyd i waith. Cyd-ddigwyddiad lwcus oedd hi fod Coleg y Drindod Caerfyrddin yn chwilio am berson i weithio yn y Llyfrgell. Perswadiodd Rhian y Llyfrgellydd Sirol mai hi oedd yr un am y swydd. Bu'n gweithio yno am bum mlynedd hapus iawn. Ond dirywiodd ei golwg yn gyflym iawn yn y cyfnod yma, a theimlai Rhian nad oedd hi'n deg i ddisgwyl i'w chyd-weithwyr ei chynorthwyo yn ei gwaith drwy'r amser, er nad oedd yr un ohonyn nhw wedi crybwyll bod problem gyda hynny.

Felly aeth i weld y Prif Lyfrgellydd i egluro ei rhesymau dros ymddiswyddo. Er i fod yn deall ei rhesymau doedd e ddim am golli gweithwraig ddiwyd a dibynadwy, felly cynigiodd swydd wahanol iddi casglu a chofnodi hanesion Gwŷr sir Gaerfyrddin fu'n gweithio ar y rheilffordd - ar dap!! Er nad oedd y testun yn apelio cymaint â hynny iddi, derbyn y swydd gwnaeth hi ac yn y pen draw, ei fwynhau yn fawr iawn.

Ar ôl diwrnod caled o waith doedd dim yn well gan Rhian na mynd adre, rhoi ei thraed i fyny a gwrando ar glecs yr ardal. Byddai ei chwaer yn darllen darnau diddorol allan o'r papur lleol iddi - "Y Carmarthen Journal". A dweud y gwir byddai ei chwaer wedi darllen pob darn o'r papur iddi erbyn i'r rhifyn nesaf gyrraedd! Dyma pryd sylweddolodd Rhian fod rhaid bod eraill yn yr ardal yn debyg iddi hithau. yn dibynnu ar eraill i ddarllen iddyn nhw. Sylweddolodd hefyd, bod rhaid bod rhai pobi heb deulu na ffrindiau agos, ac felly heb neb i ddarllen iddyn nhw. Dechreuodd holi o gwmpas yr ardal a deall bod ei theimladau yn gywir. Roedd rhaid gwneud rhywbeth!

Aeth ati i godi arian er mwyn prynu cyfarpar recordio. Bu'n canfasio cynghorwyr tref Caerfyrddin a'n poeni'r cynghorwyr sirol hyd syrffed nes iddi gael swyddfa gennyn nhw, yn nhref Caerfyrddin, er mwyn sefydlu stiwdio sain. Defnyddiodd y "Carmarthen Journal" i hysbysebu ei hymgyrch yn rheolaidd. Trefnodd gannoedd o achlysuron i godi arian, bu'n siarad â mudiadau a changhennau di-ri. Daeth pawb yng Nghymru i wybod am Rhian Evans a'i breuddwyd.

Ar ôl sawl blwyddyn o ymgyrchu, llwyddodd i brynu'r offer angenrheidiol. Trefnodd bod rhyw bump neu chwe gwirfoddolwr yn dod at ei gilydd i dapio erthyglau o'r papur - un ochr o'r tap yn Gymraeg a'r ochr arall yn Saesneg. Trefnodd bod y tapiau yma yn cael eu dosbarthu a'u casglu yn wythnosol.

Erbyn hyn mae'n broject enfawr. Dosberthir tua 4000 o'r tapiau yma yn wythnosol yn Sir Gaerfyrddin yn unig (gan Rhadbost erbyn hyn). Mae'n gynllun a gopïwyd gan rhan fwyaf o siroedd eraill y Deyrnas Unedig. Diolch i'r wraig benderfynol yma - Rhian Evans - mae Cynllun Llafar i'r Deillion yn mynd o nerth i nerth. Mae ei dycnwch a'i dyfal barhad yn wers i ni i gyd.

Gan: Hefina Davies


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy