Ddwy ganrif yn ôl cynlluniwyd y locomotif stêm cyntaf i deithio ar gledrau. Mae sawl rheswm am bwysigrwydd y digwyddiad ac efallai ei bod yn syndod nad oes mwy a sylw yn cael ei roi i'r dathliadau. Rwy'n siŵr bod y diwrnod hwnnw yn Chwefror 1804 yn un hynod gyffrous. Dychmygwch weld y fath olygfa - cerbyd heb geffyl yn cario llwyth o haearn dros y tir. Dychmygwch fod yn un o'r lygaid dystion hynny, does ryfedd i nifer fawr a bobl neidio ar y wagenni i gael taith ar gefn y "ceffyl haearn".
Dylen ni fel pobl Merthyr ymfalchio yn ein menter - Nid yw'n syndod mai ym Merthyr Tudful y digwyddodd hyn: roedd angen cyfuniad o ddewrder, menter a bon braich i greu ffasiwn ddyfais ac yma yn y berw gwyllt o bobl a diwydiant y daeth breuddwyd a gweledigaeth yn realiti. Mae'n debyg nad oedd pobl i fod i deithio ar y wagenni ond mae'n amlwg bod y syniad cyffrous wedi cydio yn nychymyg y werin a maes o law wedi esgor ar ddyfais a fyddai yn gwedd newid golygfeydd a diwydiant nid yn unig ledled de Cymru ond hefyd ar hyd a lled y byd. Ar Chwefror 21 digwyddodd y daith. Roedd pum wagen yn cario cyfanswm a 10 tunnell o haearn. Ar y blaen, cerddai Richard Trevithick ei hun, yn hyderus wrth weld ei freuddwyd yn troi'n realiti. Teithiodd y locomotif y naw milltir i Abercynon gyda chymaint a 70 a deithwyr brwd ar y wagen. Cyflymder y daith oedd pum milltir yr awr. Yn anffodus, doedd y cledrau ddim yn ddigon cryf i gynnal pwysau mor drwm ac ar ôl dim ond pedair taith daeth dyddiau locomotif symudol Trevithick i ben. Parhaodd Trevithick i adeiladu peiriannau stem, ond rhai llonydd yn y gweithfeydd haearn oedden nhw. Roedd oes newydd ar ddechrau, nid term yn unig oedd "chwyldro diwydiannol" ond gwawria gweddnewidiad yng nghyfeiriad trefn bywyd ar hyd a lled y byd, ac oes, mae gan Merthyr Tudful le yn y chwyldro. "Ym mil wyth sera pedwar Newidwyd cwrs y byd. Yma y digwyddodd A'r Taf a llifai lawr Pan deithiodd locomotif, Rhyfeddod oedd mor fawr." Euros Jones
 |