BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

.Cylch
Nia Parry a melanie Gillingham ar Welsh in a WeekDysgwraig leol: derbyn her o flaen y genedl
Hydref 2004
Daeth Welsh in a Week i Ferthyr ym mis Gorffennaf. Roedd Melanie Gillingham yn ddysgwraig enwog am wythnos gyfan.
Bu'r criw yn ffilmio o gwmpas Merthyr i gyd. Ffilmion nhw Ti a Fi y Gyrnos ble mae Melanie yn arweinydd a ffilmion nhw Melanie King arweinydd Ti a Fi Cefn Coed yn rhoi cyngor a syniadau i'r ddysgwraig brwd. Cafodd Melanie ei ffilmio yn mynychu ei sesiwn Weight Watchers wythnosol, mae hi wedi colli 2 a hanner stôn erbyn hyn!

Aeth Melanie â'r criw ar drip ar Reilffordd Aberhonddu gyda'i phlant a'u ffrindiau. Galwodd y criw i mewn i fore coffi yn y Ganolfan Gymraeg a hefyd i weld criw o ddysgwyr sydd yn cwrdd bob nos Fercher yng Ngwesty'r Imp ym Mhontmorlais. Cafodd trigolion Cymraeg Merthyr syrpreis mawr i weld Nia Parry sydd yn enwog am gyflwyno'r rhaglenni Welsh in a Week a Cariad@iaith. Mae Melanie yn dod o Essex yn wreiddiol ac mae hi bellach yn byw ym Merthyr. Mae hi'n gweithio mewn archfarchnad yn y dref ac mae ei phlant, Thomas a Mollie yn mynychu Ysgol Gymraeg Santes Tudful.

Dechreuodd Melanie ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau nos yn Ysgol Santes Tudful. Mae hi wedi bod yn dysgu ers dwy flynedd.

Daeth Melanie mewn i ymweld â mi heddiw i siarad am ei phrofiad o ffilmio'r rhaglen. Gofynnais i pam benderfynodd hi gymryd rhan yn y rhaglen. Atebodd hi gan ddweud,"Pryd symudais i i Gymru yn gyntaf, tair blynedd yn ôl, welais i Welsh in a Week ar S4C. Roeddwn i'n trio dysgu Cymraeg ar fy mhen fy hun yn y tŷ ar y pryd a roedd hi'n anodd iawn. Penderfynais i i ymuno â dosbarth Cymraeg i Oedolion a dywedais byddai i ar Welsh in a Week un diwrnod! Pan welais i hysbyseb ar ddiwedd cyfres o raglenni Welsh in a Week penderfynais drio amdani."

Gofynnais i beth oedd ei hoff beth am gymryd rhan. Dywedodd hi "Fy hoff agwedd o gymryd rhan oedd clywed pobl yn siarad ac yn chwerthin yn Gymraeg yn naturiol, roedd hwn yn ddylanwadol iwwn."

"Roedd trio dysgu'r gân 'Mynd ar y Ceffyl' i Nia Parry yn ddoniol iawn. Hefyd pan ddaeth y criw i ffilmio fi yn gwerthu pysgod yn Tesco's a hedfanodd brithyll mas o fy llaw a glaniodd e ar y llawr o flaen pawb!

Gofynnais i oedd unrhyw beth hoffai hi anghofio am y ffilmio. Atebodd hi "Pryd aethon ni i'r Imp i ffilmio gyda dysgwyr ces i sawl glasiad o win gan fod Nia yn prynu nhw un ar ôl y llall. Pryd es i adref ar ddiwedd y noson ffilmiais i fy hun ar ddyddiadur fidio. Roeddwn i wedi meddwi a does dim syniad gyda fi beth ddywedais i. Dwi'n gobeithio bydden nhw ddim yn dangos hwn ar y rhaglen!"

Gofynnais i os oedd cynwyd rhan yn y rhaglen wedi ei sbarduno hi i gario mlaen gyda Dysgu Cymraeg. Atebodd Melanie yn frwd -"Yn bendant! Cefais gymaint o hwyl, mae'n rhaid i mi gario ymlaen. Fy mwriad yw i ddysgu Cymraeg i bobl eraill un diwrnod."

Ga'i ddiolch i Melanie am rannu ei phrofiadau gyda ni a dymuno pob hwyl iddi wrth ddysgu'r iaith Gymraeg - dalia ati Mel!!

Darlledwyd rhaglen Melanie nos Sul 10fed o Hydref am 5 o'r gloch ar S4C. Mae boreau coffi pob dydd Mawrth yn y Ganolfan Gymraeg o 11.30 tan 12.30

Mae dysgwyr yn cwrdd yng Ngwesty'r Imp ym Mhontmorlais pob nos Fercher am 9 o'r gloch. Mae croeso cynnes wythnosol i bawb sydd yn dysgu neu yn defnyddio'r Gymraeg.

Gan: Lisbeth McLean


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy