Cartrefi Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn byw mewn tai - ond roeddynt yn wahanol iawn i'r tai yr ydym ni yn byw ynddynt heddiw! Roedd teuluoedd mawr yn byw mewn ty crwn. Roedd y waliau wedi'u gwneud o dwb (gwellt, mwd a thail) a'r to o wellt.Pentan haearn  Byddai'r Celtiaid yn defnyddio tân yng nghanol y ty crwn er mwyn coginio a cynhesu'r ty. Daeth gweithiwr fferm o hyd i'r pentan haearn yma yn 1852 ger Llanrwst yng Ngogledd Cymru. Roedd yn gorwedd ar ei ochr, gyda charreg fawr ar bob ochr iddo, ac wedi'i gladdu'n ddwfn mewn mawn. Roedd yr archeolegwyr yn credu mai aberth ydoedd i un o dduwiau Celtiaid.
Yn y ty crwn, byddai'r pentan haearn wedi'i osod bob ochr i'r lle tân. Efallai mai addurno yn unig oedd ei bwrpas neu efallai i ddangos statws y cartref. Roedd y gof a wnaeth y pentan haearn yma yn fedrus iawn yn siapio ac yn gweithio â haearn. Bob ochr i'r pentan mae pen a gwddw anifail - byddai wedi cymryd amser, ymdrech a sgil i'w wneud.  Mae'r llun yn dangos ty crwn wedi ei ail-greu ar safle bryngaer yng Nghastell Henllys yn Sir Benfro.
Byddai pobl Oes yr Haearn wedi dewis lle i fyw am resymau gwahanol. Roedd y pennaeth a'i deulu, milwyr a chrefftwyr, yn byw mewn bryngaer gan ei fod yn hawdd i'w amddiffyn. Mae olion dros 1000 o fryngaerydd yng Nghymru. Roedd llethrau serth, wal uchel a ffos ddofn yn helpu i gadw'r Celtiaid yn ddiogel yn eu cartrefi. Roedd y ffermwyr yn byw ar y tir yr oeddynt yn ei ffermio. Roedd y Celtiaid yn adeiladu ffermydd yn agos i ddŵr, tir ffrwythlon a thir pori da ar gyfer yr anifeiliad. Roedd y Celtiaid yn tyfu yd ac yn cadw gwartheg, moch, ceffylau, geifr a defaid. Ni chadwodd y bryngaerydd y Rhufeiniad allan, serch hynny, a gorchfygwyd y llwythau Celtaidd pan ymosododd y Rhufeiniad yn 43OC. ©AOCC
|