Gwisg a Gwedd  Mae'n bosib i rai o ddillad Celtiaid Oes yr Haearn edrych fel y tartan a welir yn Yr Alban ac Iwerddon heddiw, gyda phatrwm o sgwariau a streipiau.
Defnyddiai'r Celtiaid aeron a phlanhigion i newid lliw eu gwlân. Roedd y Celtiaid yn hoffi dillad llachar ac, yn ôl y Rhufeiniaid, roedd rhai o'r Celtiaid yn paentio patrymau ar eu cyrff gyda phaent glas wedi'i wneud o blanhigyn arbennig. Roedd dillad y Celtiaid yn dangos eu statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth. Byddai dynion yn gwisgo tiwnig gyda gwregys, clogyn a throwsus. Gwisgai'r merched ffrogiau wedi'u cau gyda broetshis. Roedd aelodau pwysig o'r llwyth yn gwisgo torch wddw o aur, arian neu haearn, wedi'i haddurno â phatrymau addurnedig. Milwyr  Mae haneswyr Rhufeinig yn dweud fod gan filwyr Celtaidd wallt pigog gwyn. Defnyddiwyd calch gan y Celtiaid fel yr ydym ni yn defnyddio 'mousse' gwallt heddiw, ac weithiau byddent yn clymu eu gwalltiau mewn cynffon ceffyl.
O amgylch eu gyddfau roeddynt yn gwisgo torchau aur fel cadwyni mawr. Roedd y milwyr pwysicaf yn gwisgo helmedi wedi'u gwneud o bres er mwyn dangos pa mor bwysig oeddynt. Yn aml byddai llun adar, anifeiliaid neu gyrn ar yr helmedi. Byddent yn cario tariannau enfawr wedi'u haddurno gydag arwyddion neu batrymau.
|