BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Rhyfelwyr

Cleddyf Llyn FawrYn ôl y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn colli eu tymer ac yn cweryla yn aml - ond nid ydym yn gwybod os ydi hynny'n wir. Wedi'r cyfan, ni allent ymladd drwy'r amser - byddent wedi blino gormod i ffermio! Roedd yn rhaid i'r ffermwyr fod yn barod i ymladd pan fyddai pennaeth y llwyth yn galw arnynt.

Byddai'r Celtiaid yn aml yn ymladd yn noeth - ac mae haneswyr yn credu bod merched yn ymladd hefyd. Eu prif arfau oedd gwaywffyn a chleddyfau, tebyg i'r cleddyf haearn yn y llun uchod. Weithiau byddent yn ymladd mewn cerbyd rhyfel wedi'i dynnu gyda cheffyl.

Pwer y Rhufeiniaid

Er bod y Celtiaid yn ymladdwyr dewr a medrus, roeddynt braidd yn anhrefnus. Ychydig iawn o obaith oedd ganddynt yn erbyn y Rhufeiniaid pwerus. Ac wrth gwrs yn y pen draw fe'u gorchfygwyd gan y Rhufeiniaid.

Cleddyf y Breiddin Daethpwyd o hyd i'r cleddyf pren yma mewn pwll ar safle bryngaer Breiddin yn Y Trallwng. Roedd yr amgylchfyd gwlyb wedi ei gadw rhag pydru. Gallai'r cleddyf fod yn degan, yn offeryn gwehyddu neu'n rhodd i'r duwiau.

Y Merched

Dywedodd Tacitus fod y merched Celtaidd yr un mor fawr a brawychus â'r dynion. Os yw hyn yn wir, nid yw'n syndod iddynt gymryd rhan yn yr ymladd!

Ymladdwraig enwog oedd gwraig o'r enw Bouddicca, pennaeth llwyth yr Inceni. Fe'i disgrifiwyd fel gwraig a chanddi gwallt coch trwchus i lawr at ei phen-gliniau - tebyg iawn i Ffion Ffyrnig yn yr adran Gemau & straeon efallai!

Gwisgai diwnig liwgar, torch aur am ei gwddw a chlogyn o frethyn trwchus wedi'i chlymu gyda broetsh. Pan fyddai'n mynd i ymladd byddai'n dal gwaywffon yn ei llaw. Nid oedd yn hoffi'r Rhufeiniaid a bu'n ymladd yn eu herbyn.

©AOCC


Tystiolaeth
Llinell amser
Cartref
Crefftau
Gwisg a gwedd
Rhyfelwyr
Crefydd a chredf
Rheol o Rufain
Cysylltiadau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy