Rheol o Rufain Daeth y Rhufeiniaid i Gymru i chwilio am gyfoeth - tir, caethweision, ac yn bennaf haearn, plwm, sinc, copr, arian ac aur. Daethant o Rufain yn yr Eidal, gan orchfygu llwythau eraill ac ennill tir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd Affrica. Yn 43OC daethant i Brydain.Adeiladwyd trefi gan y Rhufeiniaid lle nad oedd y Celtiaid yn ymladd yn ôl. Adeiladwyd caerau cryf a oedd wedi'u cysylltu i ffyrdd da. Roedd porthladdoedd a harbwrs yn fannau pwysig i'r Rhufeiniaid i ddod â bwyd, gwin ac olew o dramor i mewn i Gymru. Roeddynt hefyd yn allforio nwyddau o Gymru i wledydd tramor. Torfgadwyn  Daethpwyd o hyd i'r dorfgadwyn haearn yma yn Llyn Cerrig Bach yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n cynnwys pump pâr o ddolennau gwddw. Dywedodd yr awdur Strabo i'r Rhufeiniaid allforio caethweision o Brydain tua diwedd Oes yr Haearn.
Fodd bynnag, ni allwn fod yn siŵr beth oedd pwrpas y gadwyn - gallai fod wedi'i defnyddio ar gyfer troseddwyr neu aberthau. Nid oedd y berthynas rhwng y Rhufeiniaid a'r Celtiaid yn anghyfeillgar o hyd. Roedd ffordd o fyw y Rhufeiniaid yn wahanol iawn i'r Celtiaid a dechreuodd nifer o'r Celtiaid efelychu'r Rhufeiniaid, drwy siarad eu hiaith a byw fel nhw. Daeth geiriau Lladin i mewn i'r iaith Gymraeg gan newid yr iaith a siaradwyd gan y Celtiaid. Aeth ffordd o fyw y Rhufeiniaid a'r Celtiaid yn un cymysg. Priodasant ei gilydd. Roedd milwyr y Rhufeiniaid yn ymddeol o'r fyddin ac yn dechrau ffermio a chadw siop. Ymunodd meibion ac wyrion y rhai hynny oedd wedi ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid ar y dechrau gyda hwy.  Wedi 400 mlynedd gadawodd y Rhufeiniaid Brydain. Roedd eu hymerodraeth yn dod i ben. Yn y rhannau gorllewinol o Ynysoedd Prydain, goroesodd y Celtiaid er gwaethaf y bygythiad newydd - yr Eingl Sacsoniaid.
Yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw, mae diwylliant Celtaidd wedi goroesi ac rydym yn dal i feddwl am ein hunain fel Celtiaid heddiw.
©AOCC
|