Y Dystiolaeth Mae archeolegwr fel ditectif, yn chwilio am dystiolaeth (cliwiau) ynglyn â sut yr oedd bobl yn arfer byw amser maith yn ôl. Corff yn y mawn  Weithiau mae'r cliwiau yn cael eu darganfod trwy ddamwain. Tra roedd cloddiwr yn symud pridd mewn mawnog ('bog') yn Sir Gaer, gwelodd gorff dynol wedi'i gladdu'n ddwfn yn y mawn. Cafodd y gweithiwr tipyn o sioc a galwodd yr heddlu - roeddynt yn credu bod y dyn wedi ei lofruddio.
Roedd y dyn wedi'i daro ar ei ben, wedi'i dagu a'i wddw wedi'i dorri. Dychymygwch syndod yr archeolegwyr pan wnaethant ddarganfod mai Celt o Oes yr Haearn ydoedd wedi'i ladd 2000 o flynyddoedd yn ôl! Dim ond hanner uchaf y corff oedd ar ôl. Darganfyddodd yr archeolegwyr fwyd yn dal yn ei stumog ar ôl 2,000 o flynyddoedd! Ei bryd olaf oedd bara. Dyma gliw hynod o fyd y Celtiaid, wedi'i biclo yn y mawn a'r mwd. Roedd dyn y mawn yn noeth pan ddaeth y cloddiwr o hyd i'w gorff. Yn anffodus, nid oes tystiolaeth fel dillad, esgidiau a photiau yn cael eu darganfod yn aml gan eu bod yn pydru yn y ddaear. Ond nid yw pethau o garreg a metel yn pydru a dyma'r cliwiau sy'n dweud wrthym am y Celtiaid - ond dim ond rhan o'r stori a geir. Cofnodi digwyddiadau Nid oedd y Celtiaid cynnar wedi gadael llyfrau ar eu hol gan nad oeddynt yn gallu darllen nac ysgrifennu - siarad a chofio oedd ffordd y Celtiaid o gofnodi digwyddiadau. Ond yn ffodus i ni, fe ysgrifennodd y Groegwyr a'r Rhufeiniaid am Geltiaid Oes yr Haearn. Maent yn dweud i Geltiaid Oes yr Haearn fyw mewn llwythau a gwisgo aur. Roeddynt yn hoffi ymladd ac yfed gwin. Derwyddon Ysgrifennwyd hefyd am bwer y derwyddon, sef offeiriaid Celtaidd. Roedd y derwyddon yn gwybod sut i gadw duwiau'r Celtiaid yn hapus - roeddynt yn aberthu bwyd, pethau gwerthfawr, a hyd yn oed pobl i'w duwiau.  Edrychwch ar powlen yr Wyddfa yn y llun. Efallai ei fod yn rhodd i dduw neu dduwies, gan ei bod yn drysor gwerthfawr. Mae'r cynllun yn edrych fel pen anifail. Fe wnaeth dau fyfyriwr Bioleg ddarganfod y bowlen yn 1974 ar fynydd yr Wyddfa yng ngogledd Cymru.
Mae archeolegwyr hefyd yn credu fod y corff yn y mawn o Sir Gaer yn aberth i'r duwiau. Ni allwn fod yn siŵr o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol ond gallwn gasglu'r cliwiau at ei gilydd a defnyddio ychydig o ddychymyg i geisio deall beth ddigwyddodd. ©AOCC
|