Crefftau Mae'r enw Oes yr Haearn yn dod o ddarganfyddiad y Celtiaid o haearn. Mae archeolegwyr wedi darganfod cliwiau sy'n dangos pa mor fedrus oedd Celtiaid Oes yr Haearn wrth wneud pethau o fetel. Yng Nghymru, mae'r pethau haearn cynharaf yn dod o Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf, casgliad sy'n dyddio'n ôl i tua 750CC. Mae'r casgliad yn cynnwys cryman, cleddyf a gwaywffon. Gemwaith Mae archeolegwyr wedi darganfod llawer o emwaith wrth gloddio am gliwiau am y Celtiaid. Defnyddiai'r Celtiaid bres ac aur yn ogystal â haearn. Byddai'r penaethiaid yn gwisgo gemwaith ffansi er mwyn dangos pa mor bwysig oeddynt.  Roedd y crefftwyr Celtaidd yn hoffi cynlluniau cymesuredd a phatrymau. Roeddynt yn hoff o siâp tair coes (trisgelau) yn enwedig, fel yr un ar y plac efydd Oes yr Haearn yn y llun. Daethpwyd o hyd i'r plac yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Roedd y Celtiaid hefyd yn hoff o ddefnyddio siapiau anifeiliad a wynebau.
Nid yw archeolegwyr yn darganfod dillad, gwaith lledr neu waith basged yn aml. Felly, allwn ni ond dyfalu drwy edrych ar y metel, aur a phethau eraill sydd wedi goroesi fod y Celtiaid yn hoffi lliwiau llachar a phatrymau cymhleth. Arfau  Roedd eu sgil fel gweithwyr metel hefyd yn bwysig pan oeddynt yn amddiffyn eu hunain oddi wrth eu gelynion. Roeddynt angen arfau miniog fel gwaywffyn, yn ogystal â thariannau, fel yr un yn y llun, i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad gan y gelyn. Mae'r llun yn dangos darn o darian gyda patrwm trisgelau a ddarganfuwyd yn Tal-y-Llyn.
©AOCC
|