Archifau Mai 2010

Penwythnos Mawr

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|11:47, Dydd Mawrth, 25 Mai 2010

Sylwadau (1)

Roedd wthnos dwytha yn un gwych. Cyn y penwythnos Mawr ym Mangor, es i i rai o'r gigs Wythnos Fach ym Mae Colwyn a Bangor. Speakers Corner ydi'r lleoliad ym Mae Colwyn lle roedd Adam Walton o BBC Radio Wales a Bethan Elfyn o Radio 1 a fi yn gwylio Leucine, Bastions, Kixxtart Kitty a Die! Chihuaha! Die!. Bandie roc trwm ar eu gore gyda agwedd, syniadau diddorol a digon o egni i gadw fi fynd am wthnos.

Ym Mangor roedd hi'n wych cael gweld Crash!Disco yn neuadd Hendre. Mae Gruff, sy'n 17 ac yn creu cerddoriaeth electrogneg gyda allweddellau a laptop yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, ac yn creu electro 'house' gyda elfennau o gemau cyfrifiadurol yn y mics. Mae'n wych iawn.

Roedd gweld Yr Angen o Abertawe yn bleser hefyd, ar ôl iddyn nhw ennill Brwydr Bandiau C2. Fel arfer, roedd Race Horses yn wych; mae'r band yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn dynach nag erioed. Doeddwn i methu aros i weld Sibrydion yn anffodus, ond ro'n i draw yn Rascals yn Bangor Ucha'.

Roedd We Are Animal, Gallops a Masters in France ar eu gorau ar y nos Iau, a nes i ddim ond clywed pethe gwych am y gigs yn Greeks a Venu 342. Roedd e'n wych i fi cal bod ym Mangor, gweld y gigs, mwynhau'r awyrgylch. Mae'r sin mor iach yno, ag ewyllys da a brwdfrydedd y gynulleidfa yno hefyd, felly fi'n edrych mlaen i gigio mwy ym Mangor!

Roedd y penwythnos Mawr eu hun yn wych, ac yn un bythgofiadwy.

Ail-ymweld ag Adrift

Categorïau:

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|22:04, Dydd Mawrth, 18 Mai 2010

Sylwadau (0)

Helo bawb!

Yr wythnos yma, ddim eich cyflwyno i fand newydd wnes i yn slot Gwyliwch y Gofod, ond ail-ymweld a un o gyn-fandiau y slot - Adrift.

Ers iddyn nhw gael sylw fel band Gwyliwch y Gofod, nol yn niwedd 2008 mae'r band wedi bod yn brysur yn gigio a recordio caneuon newydd, ac yn ol Heledd Watkins o'r band rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn a hanner dd'wetha i'r band oedd gigs yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ac yn y Morgan Lloyd, Caernarfon.

Mae'n argoeli i fod yn haf prysur i'r band eleni, efo perfformiadau yng Ngwyl Bedroc, Gwyl Nol a Mlan, ac yn Maes B - ac fe fyddan nhw'n dychwelyd i'r stiwdio ddiwedd Mehefin i recordio eu EP cyntaf.

I weld holl fanylion diweddaraf Adrift wech draw i'w tudalen myspace.

Tan y tro nesaf,

Rob.

Yr Wythnos Fach

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|15:10, Dydd Mawrth, 18 Mai 2010

Sylwadau (0)

Shwmae.

Wthnos yma fyddai yn y gigs Yr Wythnos Fach sydd yn digwydd dros ogledd Cymru, wrth i Benwythnos Mawr Radio 1 gyraedd Bangor dros y penwthnos. Fi'n edrych mlaen i'r Wyl, i weld y bandie sy'n chware, i djo dipyn, i gwrdd a pobl, i fynd o le i le yn ystod yr wthnos yma, yn enwedig gigs nos Iau ym Mangor!



Fi newydd orffen pacio; sdim angen welis nagoes? Nagoes? NAGOES?!

Os chi'n mynd, nai weld chi yno. Os ddim, fydd modd clywed uchafbwyntiau ar y radio ac ar wefan wrth gwrs. Mae rhai o ffefrynnau C2 fel Y promatics a Yr Ods yn chware dros y penwthnos; pob lwc iddyn nhw ag i'r bandiau sy'n chware drwy gydol yr wthnos!

Ffasiwn a Gwleidyddiaeth

Categorïau:

Criw C2Criw C2|15:03, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Sylwadau (0)

Arbennigwraig ffasiwn C2, Lowri Price, sydd wedi bod yn blogio i ni draw yn Efrog Newydd:

Wrth i'r newyddion dorri fod Gordon Brown wedi ymddiswyddo ac y bydd yna lywodraeth Geidwladol wrth y llyw ym Mhrydain yn fuan iawn bydd sylw sawl un yn troi at y teulu newydd fydd yn byw yn rhif 10. Ond nid posibeiliada' gwleidyddol David Cameron sydd yn fy nghyffroi i, yn hytrach posibeiliada' ffasiynol ei wraig Samantha!

Does dim dianc yn America rhag poblogrwydd yr Obamas ac mae steil clasurol chic Michelle yn cael ei efelychugan sawl un ar y stryd gan ei bod hi'n aml yn siopa ar y stryd fawr, felly mae modd efelychu ei steil yn union. Nid Michelle yw'r wraig cynta i wleidydd sydd wedi creu argraff oherwydd eu steil, cafodd Jackie O'Kennedy ei labelu yn eicon ffasiwn ers tro gyda'i steil unigryw.

Mae rhai yn cyfeirio at wleidyddiaeth fel 'Show Business for Ugly People!' ond ers tro rwan mae merched sydd yn gysylltiedig a gwleidyddiaeth wedi cael sylw gan y wasg ffasiwn. Mae Carla Bruni yn aml i'w gweld yn y tudalenau cylchgronau ffasiwn wythnosol megis Grazia, ac yn 2007 roedd Mrs Cameron ei hun i'w gweld ar glawr cylchgrawn Harpers Bazzar.

Roedd yma llawer o son hefyd am y gwariant a wnaethpwyd gan Sarah Palin ar ffasiwn yn ystod y ras wleidyddol yn America yn 2008, ac yn fwy diweddar cynhalwyd 'shoot' lluniau o 'First Wives' y byd, a gafodd ei argraffu yn y Vogue Prydeining fis Mehefin (2009).

Clicia ar y linc yma i weld llun y photoshoot Vogue 'First Wives' Mehefin 2009.

Pa ots am ffasiwn os wyt ti'n y byd gwleidyddiaeth medda chi? Wel mae hi'n holl bwysig edrych yn dda os wyt ti'n ffigwr yn llygaid y cyhoedd - druan o Mrs Blair ar ei bora cynta yn rhif 10 yn agor drws i dderbyn tusw o flodau, a hithau yn ei gwn-nos a thraed ei slipars, ddim yn sylweddoli y bydda yna domen o paparazzi y tu allan! Ddim yr argraff cychwynol oedd hi wedi ei obeithio debyg!

Efallai ei fod o yn feddylfryd hen-ffasiwn mewn ffordd ond mae'n dal yn berthnasol - mae yna ddyletswydd ar ferch i gynrychioli ei gwr, ac yn yr achos yma - ei phlaid a'i gwlad, ac mae y ffordd mae rhywyn yn gwisgo yn rhan allweddol o hyn.



Fedrwn ni rwan 'mond edrych i'r dyfodol a gobeithio y gwneith Samantha Cameron ddim ein siomi!

Lowri xx

Dysgu i fod yn 'cheerleader'...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|15:36, Dydd Llun, 10 Mai 2010

Sylwadau (1)

Helo ers tro - dyma fi yn blogio..

Wedi bod yn brysur brysur dros yr wthnose dwetha - rhwng Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru, C2 Radio Cymru (llongyfarchiadau mawr iawn iawn i'r band buddugol Yr Angen o Abertawe - roedden nhw yn anhygoel ac yn fois hyfryd!), a pharatoi ar gyfer Steddfod yr Urdd, gwylie'r haf a chyflywno rhaglenni nosweithiol - sa i di cael lot o gyfle i sgwennu. Sori!

Rhwng yr holl waith dwi hefyd wedi bod yn brysur yn mwynhau fy hun ar benwythnos iâr yn Brighton gyda fy ffrindie ysgol o Bontypridd. Dwi hanner y ferch 'o ni ar ol treulio 3 noson yn dawnsio, canu a dysgu sut i fod yn "cheer-leader".... O ni fel cymeriade mas o Degrassey Junior High neu 90210. Ond mewn wigs pinc.

Os ych chi'n gweld llunie ohonai ar face book - plis gadewch i fi wbod achos dwi ddim yn aelod o'r teulu hapus hwnnw - felly allai ond dychmygu pa fath o erchyllderau ffortograffic sy'n cuddio mewn corneli tywyll ar y we. Fi fydd yr un mewn wig pinc, siorts amryliw a'r teits blodeuog. Ac odd hwna cyn ifi newid mewn ir gwisg ffansi!

Wedi blino'n lân ar ol yr holl waith a phartio diweddar ond fel mae fy mam - Ma Dodd yn dweud - "Elli di gysgu pan 'ti di marw Mag...". Ma hi'n roc-a-roll iawn fel ellwch chi ddychmygu. Ma hi fel Sharon Ozbourne Pontypridd...

Felly, sori am fod mor ddiethr ar y blog - ond dwi'n addo sgwennu'n fwy aml. Wel - dwi'n addo trio beth bynnag!



Magi x

Sion Glyn a'r Naan Anferth

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|10:28, Dydd Llun, 10 Mai 2010

Sylwadau (0)

Dyma lun nath Alun Tan Lan anfon i fi'n ddiweddar o Sion Glyn - ei gyd Niwl-wr - gyda bara Naan ENFAWR. MMMmmmmmm...cyri.

Gwefan Y Niwl

sg_ar_naan.jpg

Sioe Finyl Mis Mai

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|15:57, Dydd Mawrth, 4 Mai 2010

Sylwadau (0)

Dyma rai lun o'r recordiau chwaraewyd ar fy sioe finyl nos Lun Mai 4ydd - mae'r sioe ar gael ar yr iplayer dan ddydd Llun nesa!

vinylmai1.JPG

vinylmai2.JPG

Gwenno o'r Pipettes

Huw StephensHuw Stephens|14:25, Dydd Mawrth, 4 Mai 2010

Sylwadau (0)

Nos Lun Mai 10 ar fy rhaglen ar C2 fydd Gwenno Saunders o The Pipettes yn westai. Mae'r band wedi teithio'r byd, rhyddhau albym ar label enfawr a chreu enw iddyn nhw eu hunen gyda pop retro perffaith,

Yn ddiweddar, mae newidiadau wedi bod yn y band, a nawr dim ond dwy ferch sy'n canu (roedd tair ar y dechrau, wedyn nath Gwenno ymuno ar ôl i un adael). Y ddwy yw Gwenno a Ani Saunders, chwiorydd o Gaerdydd. Es i weld nhw a'r band yn ddiweddar mewn gig yn Llunden, ac roedd y lle yn orlawn, pawb yn cofio geiriau'r caneuon cynnar ac yn hoff o'r tiwns newydd. Mae ganddynt albym newydd allan yn fuan; Earth vs The Pipettes ar label Fortuna Pop, sydd yn llawn caneuon gafaelgar, pop mawr. Fydd dwy gân newydd ar y rhaglen nos Lun .

pipettes.JPG

Mae Gwenno wedi cael gyrfa amrywiol. Roedd hi ar Pobl y Cwm. Fuodd hi'n ddawnswraig gyda Michael Flatley yn Lord of the Dance. Nath hi ryddhau cerddoriaeth unigol ar label Sain. Mae hyn i gyd yn dangos yn amlwg fod hi'n dalentog tu hwnt, ac mae ei ymroddiad a'i dealltwriaeth o The Pipettes a beth ma nhw am wneud gyda'u cerddoriaeth yn ysbrydoledig.

Cofiwch diwnio mewn nos Lun nesa am 10pm!