« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ail-ymweld ag Adrift

Categorïau:

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|22:04, Dydd Mawrth, 18 Mai 2010

Helo bawb!

Yr wythnos yma, ddim eich cyflwyno i fand newydd wnes i yn slot Gwyliwch y Gofod, ond ail-ymweld a un o gyn-fandiau y slot - Adrift.

Ers iddyn nhw gael sylw fel band Gwyliwch y Gofod, nol yn niwedd 2008 mae'r band wedi bod yn brysur yn gigio a recordio caneuon newydd, ac yn ol Heledd Watkins o'r band rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn a hanner dd'wetha i'r band oedd gigs yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ac yn y Morgan Lloyd, Caernarfon.

Mae'n argoeli i fod yn haf prysur i'r band eleni, efo perfformiadau yng Ngwyl Bedroc, Gwyl Nol a Mlan, ac yn Maes B - ac fe fyddan nhw'n dychwelyd i'r stiwdio ddiwedd Mehefin i recordio eu EP cyntaf.

I weld holl fanylion diweddaraf Adrift wech draw i'w tudalen myspace.

Tan y tro nesaf,

Rob.