« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Penwythnos Mawr

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|11:47, Dydd Mawrth, 25 Mai 2010

Roedd wthnos dwytha yn un gwych. Cyn y penwythnos Mawr ym Mangor, es i i rai o'r gigs Wythnos Fach ym Mae Colwyn a Bangor. Speakers Corner ydi'r lleoliad ym Mae Colwyn lle roedd Adam Walton o BBC Radio Wales a Bethan Elfyn o Radio 1 a fi yn gwylio Leucine, Bastions, Kixxtart Kitty a Die! Chihuaha! Die!. Bandie roc trwm ar eu gore gyda agwedd, syniadau diddorol a digon o egni i gadw fi fynd am wthnos.

Ym Mangor roedd hi'n wych cael gweld Crash!Disco yn neuadd Hendre. Mae Gruff, sy'n 17 ac yn creu cerddoriaeth electrogneg gyda allweddellau a laptop yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, ac yn creu electro 'house' gyda elfennau o gemau cyfrifiadurol yn y mics. Mae'n wych iawn.

Roedd gweld Yr Angen o Abertawe yn bleser hefyd, ar ôl iddyn nhw ennill Brwydr Bandiau C2. Fel arfer, roedd Race Horses yn wych; mae'r band yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn dynach nag erioed. Doeddwn i methu aros i weld Sibrydion yn anffodus, ond ro'n i draw yn Rascals yn Bangor Ucha'.

Roedd We Are Animal, Gallops a Masters in France ar eu gorau ar y nos Iau, a nes i ddim ond clywed pethe gwych am y gigs yn Greeks a Venu 342. Roedd e'n wych i fi cal bod ym Mangor, gweld y gigs, mwynhau'r awyrgylch. Mae'r sin mor iach yno, ag ewyllys da a brwdfrydedd y gynulleidfa yno hefyd, felly fi'n edrych mlaen i gigio mwy ym Mangor!

Roedd y penwythnos Mawr eu hun yn wych, ac yn un bythgofiadwy.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:33 ar 26 Mai 2010, Chris ysgrifennodd:

    Oedd o'n wych. Athoni i weld Yr Ods peth cynta, roedden nhw'n wych! Edrach ymlaen i'w halbym nhw a Gwyl Gardd Goll wan.

    Hefyd, diolch yn fawr iawn Huw, odd y DJ set diwadd y noson yn ffantastig, awyrgylch gret!